Datganiadau i'r Wasg
72 erthyglau. Tudalen: 1 2 3 4 5 6 7 9 10 11 12
Y Ddaear o'r Awyr
Portread ffotograffydd o'n planed yn anelu at ddatblygu cynaliadwy gan Yann Arthus-Bertrand
26 Mai-29 Gorffennaf 2007
Ar dir Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Canol Dinas Abertawe.
Yn Eisiau: Eich Plastig
Dewch ag unrhyw hen fagiau plastig i Faes Eisteddfod yr Urdd, Caerfyrddin.
Mae Amgueddfa Wlan Cymru yn annog pobl i beidio â gwaredu'u bagiau plastig ond yn hytrach i ddod a nhw i Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yng Nghaerfyrddin wythnos nesaf (18 Mai - 2 Mehefin) er mwyn creu ‘ryg gynaliadwy.'
Y Gyfrinach tu ôl i Feddyginiaethau Naturiol
Amgueddfa a Llyfrgell yn cyflwyno'r goron
Dau o brif sefydliadau Cymru, Amgueddfa Cymru a’r Llyfrgell Genedlaethol, sy’n gyfrifol am noddi Coron Eisteddfod Genedlaethol Sir Fflint eleni.
Mewn seremoni yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth ar ddydd Gwener 18 Mai, cyflwynir y Goron i’r Eisteddfod a’r Orsedd fel rhan o ddathliadau canmlwyddiant y ddau sefydliad eleni a’u gwerthfawrogiad o gyfraniad yr Eisteddfod i fywyd diwylliannol Cymru.
Dwy Amgueddfa Lechi'n dod ynghyd
Gefeillio Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Slate Valley, Granville, UDA
Ar 19 Mai 2007, bydd Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis yn dathlu ‘gefeillio' ag Amgueddfa Slate Valley, Granville, Talaith Efrog Newydd, gan dynnu sylw at y berthynas hirbarhaol rhwng pobl Cymru a phobl Unol Daleithiau America.
Mae'r gefeillio hwn yn un o brif ddigwyddiadau canmlwyddiant Amgueddfa Cymru, a bydd yn pwysleisio'r berthynas ddiwylliannol a hanesyddol rhwng cymunedau chwarelyddol Gogledd Cymru a chymunedau Ardal Lechi UDA.
Penwythnos yn troi'n Wythnos Genedlaethol yn yr Amgueddfa Wlân
Gyda thros 300 o felinau ar draws y DU yn dathlu Penwythnos Cenedlaethol Melinau mis yma (mis Mai), mae’r Amgueddfa Wlân yn Nre-fach Felindre yn paratoi i gynnal wythnos lawn o ddigwyddiadau cyffrous o 5 - 13 Mai 2007.