Datganiadau i'r Wasg

Mae'r ddalen hon yn dangos newyddion o Amgueddfa Cymru. Dewiswch teitl i ddangos yr erthygl llawn.

57 erthyglau. Tudalen: 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10

Bioamrywiaeth — beth yn y byd?

8 Tachwedd 2010

Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe yn dangos eleni ei bod yn poeni am yr amrywiaeth hynod o fywyd ar ein planed gydag arddangosfa deithiol newydd mewn partneriaeth â’r Gymdeithas Frenhinol.

Casglwch eich crefftau Nadoligaidd ar y Glannau

2 Tachwedd 2010

Ydych chi wedi dechrau’ch siopa Nadolig eto? Ydych chi am roi rhywbeth ychydig yn wahanol i Modryb Sali eleni? Dewch draw i Amgueddfa Genedlaethol y Glannau y penwythnos hwn i weld amrywiaeth o syniadau celf crefftus ar gyfer tymor y Nadolig.

Big Pit yn cipio gwobr Dwristiaeth fawreddog

22 Hydref 2010

Mae Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru wedi dod i’r brig mewn cystadleuaeth frwd i ennill gwobr fawreddog ‘Naws am Le’ yng Ngwobrau Twristiaeth Cenedlaethol Cymru.

Cyfarwyddwr Cyffredinol newydd Amgueddfa Cymru yn dechrau ar ei waith yng Nghymru

15 Hydref 2010

Yr wythnos hon (11 Hydref 2010), dechreuodd David Anderson ar ei waith fel Cyfarwyddwr Cyffredinol newydd Amgueddfa Cymru. Ei waith cyntaf fydd cyfarfod â’r staff ar saith safle Amgueddfa Cymru yn cynnwys Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, a bydd yn lansio Ysbrydoli Cymru – dogfen newydd yn dathlu gwaith Amgueddfa Cymru – yn y Senedd ar ddydd Llun 18 Hydref.

Pen-blwydd Hapus Amgueddfa Genedlaethol y Glannau!

12 Hydref 2010

Ar ddydd Sadwrn 17 Hydref 2010 – a dros filiwn o ymwelwyr yn ddiweddarach – bydd Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe yn dathlu ei phumed pen-blwydd yn swyddogol.

Y Darlun Mawr yn dechrau yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

9 Hydref 2010

Paratowch eich pensiliau! – Bydd Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn fwrlwm o weithgaredd yfory (Sadwrn 9 Hydref) gyda gweithgareddau i nodi dechrau Ymgyrch y Darlun Mawr.