Datganiadau i'r Wasg
76 erthyglau. Tudalen: 1 2 3 4 5 6 7 9 10 11 12 13
Achubwyr o Loegr yn hyfforddi yng Nghymru
Cynhaliwyd cyfres o ymarferion hyfforddi ar gyfer timau Achub Mwynfeydd yn Big Pit: Amgueddfa lofaol Cymru ym Mlaenafon yr wythnos hon.
Y Glannau'n paratoi at Eisteddfod yr Urdd!
Mae g?yl ieuenctid gystadleuol fwyaf Ewrop ar ei ffordd i Abertawe, a bydd Amgueddfa Cymru yno i gynnig gweithgareddau a digwyddiadau llawn hwyl i’r teulu cyfan.
Achubwyr o Loegr yn hyfforddi yng Nghymru.
Cynhaliwyd cyfres o ymarferion hyfforddi ar gyfer timau Achub Mwynfeydd yn Big Pit: Amgueddfa lofaol Cymru ym Mlaenafon yr wythnos diwethaf.
Cyfrannwch at fioamrywiaeth drwy edrych yn fanylach ar eich gardd
Fel rhan o ddathliadau Diwrnod Rhyngwladol Bioamrywiaeth 2011, bydd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn cynnal diwrnod o weithgareddau hanes natur i’r teulu cyfan ar ddydd Sadwrn 21 Mai, o 10am-4pm.
Hanes Cymru yn destun sgwrs wych dros ginio
Bydd wythnos o Sgyrsiau Dros Ginio yng Ng?yl Llenyddiaeth a Chelfyddydau Gelli Gandryll yn croesawu’r cyhoedd i ymuno mewn cyfres o drafodaethau bywiog a gwybodus. Bydd Hanes Cymru-History Wales, partneriaeth o sefydliadau treftadaeth gorau Cymru, yn darparu llwyfan i siaradwyr arbenigol o sectorau treftadaeth, celfyddyd a phrifysgol i drafod, cwestiynu a dathlu hanes yn y Gymru fodern. Bydd y testunau’n cynnwys twristiaeth ddiwylliannol, adfywiad economaidd ac addysg wyddonol yng Nghymru.
Dydd Gwener y 13eg ac mae Nos yn yr Amgueddfa yn ôl!
Harry Potter fydd thema’r digwyddiad a bydd yn fwrlwm o arbrofion gwyddonol hudolus, taith ddirgel o amgylch yr orielau, consurio crefftus a bydd ymweliad hefyd gan ddau ffrind pluog o Ganolfan Heboga Cymru - Tylluan Ewropeaidd, yr un brid â Hedwig, anifail anwes Harry, a Thylluan yr Eira ifanc.