Datganiadau i'r Wasg
37 erthyglau. Tudalen: 1 2 4 5 6 7
Io ho ho a hwyl i bawb ym Mhenwythnos Môr-Ladron yr Amgueddfa!
Bydd digonedd o hwyl am ddim i’r teulu dros y penwythnos gyda gweithgareddau môr-ladron yn llenwi dau ddiwrnod yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.
Cywaith gan Amgueddfa Wlân Cymru ar gyfer disgyblion cynradd ac uwchradd Porth Tywyn
Mae disgyblion blwyddyn naw Ysgol Glan-y-Môr, Porth Tywyn, a disgyblion ysgolion cynradd y dalgylch: Ysgol Gynradd Pwll, Ysgol y Castell ac Ysgol Gynradd Penbre, wedi cwblhau cywaith dros fis o amser, mewn partneriaeth ag Amgueddfa Wlân Cymru i greu croglun anferth. Ddoe (dydd Iau 18 Gorffennaf), cyflwynwyd y gwaith i’r Amgueddfa gan y disgyblion a bydd yn cael ei arddangos yn Oriel y Gymuned yn Amgueddfa Wlân Cymru rhwng yr ail o Awst a’r ail o Fedi.
Cyfle prin i weld gwaith Keith Vaughan yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Ar ddydd Sadwrn 13 Gorffennaf 2013, bydd arddangosfa newydd – Keith Vaughan: Cyfansoddwr y Ffigwr a’r Gofod – Darluniau, Printiau a Ffotograffau, 1935-1962 – yn agor yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Mae ar daith o Ysgol Gelf Prifysgol Aberystwyth.
Datgelu hanes Mantell Aur yr Wyddgrug mewn arddangosfa newydd
Y Fantell yn dychwelyd i Gaerdydd a Wrecsam
Celf yn sbardun addysg gyda help y Glannau
Mae disgyblion Ysgol Gynradd Ynystawe wedi troi at Amgueddfa Genedlaethol y Glannau am ysbrydoliaeth ar gyfer project cenedlaethol amlwg.
Baner y Sgowtiaid, a oedd yn gwmni i Scott ar ei daith i’r De, yn rhan o’r casgliad cenedlaethol
Pan ddychwelodd y Terra Nova – llong Alldaith Antarctig Capten Scott – i’w chartref ym mhorthladd Caerdydd ar 14 Mehefin 1913, roedd y Lluman Gwyn yn cyhwfan dros y starn, y Ddraig Goch o’r prif hwylbren ac arfbais dinas Caerdydd o’r hwylbren blaen. Ond roedd banner arall, llai i’w gweld wrth y blaen hefyd, sef baner werdd 4ydd Trŵp Sgowtiaid Caerdydd.