Datganiadau i'r Wasg
51 erthyglau. Tudalen: 1 2 4 5 6 7 8 9
Trenau Bach. Yn galw yn Amgueddfa Wlân Cymru
Byddwn ni’n codi stêm yn Amgueddfa Wlân Cymru rhwng 10am a 3pm ar ddydd Sadwrn 1 Tachwedd, gyda Diwrnod Modelau Rheilffyrdd. Bydd yn gyfle i ymwelwyr weld modelau 20tr o reilffordd Cilgeran i Aberteifi ac un o Faenorbŷr yn Sir Benfro.
Hwyl yr hydref yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru
Ah, yr hydref, pan fo’r awyr yn llawn arogl cawl pwmpen, tan gwyllt a... physgod?! Bydd ymwelwyr ag Amgueddfa lleng Rufeinig Cymru dros hanner tymor (27-31 Hydref) yn gweld ochr ddrewllyd, afiach y Rhufeiniaid mewn gweithdai ‘Ych a fi!’ (11am – 4pm gyda’r drysau’n cau am 3.30pm. Codir tâl o £2 y plentyn). Allwch chi stumogi’r diwrnod?
Penodi Ymddiriedolwr Newydd Amgueddfa Cymru
Mae Elisabeth Elias, Llywydd Amgueddfa Cymru wedi cyhoeddi y penodwyd Ymddiriedolwr newydd i Fwrdd yr Amgueddfa.
Penodi Ymddiriedolwr Newydd Amgueddfa Cymru
Mae Elisabeth Elias, Llywydd Amgueddfa Cymru wedi cyhoeddi y penodwyd Ymddiriedolwr newydd i Fwrdd yr Amgueddfa.
Arddangosfa newydd yn rhoi lle i Dylan Thomas yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Bydd arddangosfa newydd sbon, Lle Dylan, yn agor maes o law yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.
Mae Lle Dylan wedi’i churadu gan yr artist a hanesydd celf sy’n enedigol o Lundain Ceri Thomas, ac mae’n cyflwyno detholiad o ddelweddau a dehongliadau Ceri dros yr 20 mlynedd diwethaf.
Dadorchuddio’r Gorffennol: Grant Treftadaeth y Loteri yn cefnogi menter newydd i fanteisio i’r eithaf ar ddarganfyddiadau ar
Bob blwyddyn bydd defnyddwyr datgelwyr metel, ffermwyr a cherddwyr yn gwneud darganfyddiadau archaeolegol allai fod â cymaint i’w ddweud am orffennol Cymru. Ond a fyddwn ni’n gwneud y gorau o’r darganfyddiadau?Mae Amgueddfa Cymru mewn partneriaeth â Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Celf Cymru a’r Cynllun Henebion Cludadwy Cymru wedi ennill grant sylweddol gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri i wireddu potensial darganfyddiadau newydd. Dyfarnwyd £349,000 i broject Saving Treasures, Telling Stories i weithio gyda darganfyddwyr a chymunedau, gan ategu casgliadau amgueddfeydd cenedlaethol a lleol ar draws Cymru.