Datganiadau i'r Wasg

Mae'r ddalen hon yn dangos newyddion o Amgueddfa Cymru. Dewiswch teitl i ddangos yr erthygl llawn.

51 erthyglau. Tudalen: 1 2 3 4 5 6 7 8 9

Y Dodo yn dod i Gaerdydd

20 Mehefin 2014

Y Dodo yn dod i gynhadledd ryngwladol

Cynhadledd hanes natur fawr yn dod i Gymru am y tro cyntaf

Datganiad i’r wasg ynghylch gweithredu diwydiannol ar 18 Mehefin 2014

18 Mehefin 2014

“Bydd gweithredu diwydiannol yn effeithio rhyw gymaint ar safleoedd Amgueddfa Cymru rhwng 12pm a 2pm heddiw (dydd Mercher, 18 Mehefin 2014). Fodd bynnag, bydd pedair o’r saith safle’n aros ar agor yn ystod y ddwy awr honno ac rydym yn gwneud ein gorau i sicrhau parhad ein gwasanaethau i’r cyhoedd drwy gydol y dydd. Rydym yn argymell i’n hymwelwyr fynd i’r wefan am ragor o wybodaeth cyn ymweld ag unrhyw un o’r safleoedd.

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn lansio Prynhawniau Plu

17 Mehefin 2014

Mae hen bethau mewn ffasiwn unwaith eto, ac mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn lansio cyfres o becynnau parti plu lle gallwch chi fwynhau crefftau hen ffasiwn a chreu gemwaith.

Noson gyda’r Minions yn denu’r torfeydd

14 Mai 2014

Gawsoch chi awydd erioed i grwydro’r amgueddfa ar ôl diffodd y goleuadau a chloi’r drysau? Dyma’ch cyfle!

O 6pm ar ddydd Mercher 16 Mai, bydd yr Amgueddfa yn llawn bwrlwm gwyddoniaeth gyda gweithgareddau celf a chrefft, arddangosiadau gwyddoniaeth gwyllt, llwybr i’r teulu a ffilm 3D (o 7.30pm).

Penodi Trysorydd ac Ymddiriedolwyr newydd Amgueddfa Cymru

2 Mai 2014

Mae John Griffiths, Y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon, ac Elisabeth Elias, sef Llywydd Amgueddfa Cymru wedi cyhoeddi enwau Ymddiriedolwr a Darpar Drysorydd newydd, ynghyd â dau Ymddiriedolwr arall a fydd yn ymuno â Bwrdd yr Amgueddfa.

Seren rhaglen The Call Centre, Nev Wilshire yn galw yn y Glannau

24 Ebrill 2014

Mae’n bleser gan Amgueddfa Genedlaethol y Glannau groesawu Nev Wilshire, un o feibion Abertawe a seren rhaglen y BBC The Call Centre, fydd yn ymuno â ni ar ddydd Sul 27 Ebrill am 2.30pm i rannu cyfrinachau ei lwyddiant busnes gwobrwyog.