Datganiadau i'r Wasg
53 erthyglau. Tudalen: 1 2 3 4 5 6 7 8
Dyfarnu £100,000 i Amgueddfa Cymru gan chwaraewyr People’s Postcode Lottery
Mae chwaraewyr y People’s Postcode Lottery wedi dyfarnu nawdd i Amgueddfa Cymru, er mwyn darparu amrywiaeth eang o arddangosfeydd a gweithgareddau i ymwelwyr ag Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.
Ymchwil i Wyddoniaeth Rhyw ar ddydd Sant Ffolant
Awydd gwneud rhywbeth ychydig yn wahanol ar ddydd Sant Ffolant? Galwch draw i Amgueddfa Genedlaethol y Glannau i glywed Rosie Wilby a gyrhaeddodd rownd derfynol Funny Women yn trafod Gwyddoniaeth Rhyw.
Penodi Cyfarwyddwr Casgliadau ac Ymchwil newydd Amgueddfa Cymru
Mae’n bleser gan Amgueddfa Cymru gyhoeddi penodiad Dr Peter Wakelin fel cyfarwyddwr Casgliadau ac Ymchwil newydd y sefydliad. Ymunodd Peter Wakelin â’r Amgueddfa ym mis Ionawr a bydd yng ngofal yr adrannau Celf, Hanes ac Archaeoleg, y Gwyddorau Naturiol a Gwasanaethau Casgliadau.
Brasluniau Sutherland i’w gweld ar y Glannau
Bydd cyfle unigryw i ymwelwyr ag Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe weld dros 60 o weithiau o lyfrau braslunio yr artist adnabyddus Graham Sutherland mewn arddangosfa arbennig newydd dan y teitl From Darkness into Light: Mining, Metal and Machines.
Sadwrn Sêr yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Wedi digwyddiadau poblogaidd yn y gorffennol, bydd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd unwaith eto yn cynnal diwrnod llawn hwyl o weithgareddau, sgyrsiau ac arddangosiadau arallfydol AM DDIM i’r teulu cyfan ar ddydd Sadwrn 11 Ionawr, 10am-4pm. Mae’n rhan o ddigwyddiadau Stargazing LIVE y BBC, sy’n dangos delweddau gwych o delesgopau mwyaf pwerus y ddaear – a thu hwnt – dros dair noson o ddigwyddiadau seryddol anhygoel.