Datganiadau i'r Wasg

Mae'r ddalen hon yn dangos newyddion o Amgueddfa Cymru. Dewiswch teitl i ddangos yr erthygl llawn.

79 erthyglau. Tudalen: 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14

Gwylio’r Eclips Haul yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

18 Mawrth 2015

Peidiwch â cholli cyfle prin i weld eclips rhannol ar yr Haul, fydd i’w weld yng Nghaerdydd ar ddydd Gwener 20 Mawrth. Mae Prifysgol Caerdydd, Amgueddfa Cymru a’r Sefydliad Ffiseg yn gweithio ar y cyd er mwyn sicrhau bod modd i chi wylio’r ffenomen anhygoel hon yn ddiogel, gydag arbenigwyr wrth law. Mae yna hefyd gyfres o sgyrsiau yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar nos Iau 19 Mawrth i ddathlu’r digwyddiad.

Gwobr genedlaethol am ragoriaeth mewn marchnata i un o staff y Glannau

13 Mawrth 2015

Mae Marie Szymonski, Swyddog Cyfathrebu a Marchnata yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe, wedi derbyn gwobr Hyrwyddwr Marchnata y Flwyddyn ar gyfer Amgueddfeydd mewn seremoni fawreddog yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Mae’r Gwobrau Rhagoriaeth Marchnata yn cydnabod y gwaith gwych a wneir gan staff mewn amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd ledled Cymru, yn aml gydag ychydig iawn o adnoddau.

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn dathlu Wythnos Wyddoniaeth Prydain a Sul y Mamau

11 Mawrth 2015

Dewch draw ar gyfer Gwyddoniaeth ar y Sadwrn ar 14 Mawrth. O 12-4pm bydd modd i ymwelwyr gymryd rhan mewn gweithgareddau ymarferol, arddangosiadau ac arbrofion syfrdanol.

Arddangos Gitâr Fas Pepsi Tate yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

11 Mawrth 2015

Yn ddiweddar, derbyniodd Amgueddfa Genedlaethol y Glannau gitâr fas Royal Electra i’w arddangos yn Oriel Diwrnod o Waith. Cofnod yw’r oriel o’r newid yn niwrnod gwaith y Cymro yn ystod yr ugeinfed ganrif, ac mae’n cynnwys adran arbennig ar gyfer y diwydiant cerddoriaeth.

Offer achub bywyd yn Amgueddfa Cymru

9 Mawrth 2015

Mae diffibrilwyr achub bywyd bellach wedi’u gosod ar saith safle Amgueddfa Cymru i ddiogelu’r staff a’r 1.6 miliwn o bobl sydd (ar gyfartaledd) yn ymweld bob blwyddyn.  Yn ogystal a gosod yr offer achub bywyd, mae staff Amgueddfa Cymru wedi derbyn hyfforddiant i’w defnyddio’n gywir.

Arddangosfa Môr Plastig yn Oriel y Parc yn canolbwyntio ar sbwriel môr

5 Mawrth 2015

Tynnwyd ffotograffau gyda manylion fforensig, o sbwriel môr o bob cwr o Arfordir Sir Benfro, er mwyn herio syniadau o’r hyn sy’n ‘naturiol’ ar gyfer arddangosfa newydd yn Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc yn Nhyddewi.