Datganiadau i'r Wasg
79 erthyglau. Tudalen: 1 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14
Hwyl yr Ŵyl yn y Glannau dros y penwythnos!
Ymunwch â ni dros y penwythnos wrth i Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ddod yn fyw gyda chymysgedd o grefftau a charolau, ymweliad gan Siôn Corn a mulod go iawn.
Amgueddfa Wlân Cymru yn ennill gwobr Best Told Story
Mae Amgueddfa Wlân Cymru yn Dre-fach Felindre wrth ei bodd i dderbyn cymeradwyaeth Croeso Cymru.
Derbyniodd yr Amgueddfa, sydd wedi’i lleoli yn hen Felin Cambrian ym mhrydferthwch Dyffryn Teifi, wobr Best Told Story am ei llwyddiant yn cyfleu ei stori.
Darganfod Trysor yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg
Dyfarnu bod ceiniogau Rhufeinig a modrwyau canoloesol yn drysor
Trysorau: Anturiaethau Archaeolegol
Darganfyddiadau archaeolegol gwych o bedwar ban byd – a’r sgrin fawr – i’w gweld mewn arddangosfa newydd yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Amgueddfa Wlân Cymru yn mynd i ysbryd y Nadolig
Os ydych chi’n chwilio am anrhegion gwahanol eleni, cofiwch am Ffair Grefftau’r Nadolig yn Amgueddfa Wlân Cymru ar ddydd Sadwrn 28 Tachwedd.
Nadolig gwyrdd y Glannau
Mae cyfnod yr ŵyl ar y gorwel a bydd Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe, yn dathlu drwy droi’n wyrdd.
O 10am y penwythnos hwn (Sad 21 a Sul 22 Tachwedd) bydd Ffair Werdd, wedi’i threfnu gan Ganolfan yr Amgylchedd Abertawe, yn cael ei chynnal ym mhrif neuadd yr Amgueddfa.