Datganiadau i'r Wasg
79 erthyglau. Tudalen: 1 2 3 4 5 6 7 8 10 11 12 13 14
Oes gennych chi stori grêt am rygbi yr hoffech ei rhannu?
Mae llyfrgelloedd, archifau ac amgueddfeydd wedi ymuno ag Undeb Rygbi Cymru i gynnal cystadleuaeth ar gyfer pobl ifanc i ddathlu rygbi yng Nghymru fel rhan o ddathliadau Cwpan Rygbi’r Byd sydd ar y ffordd.
Canfod Trysorau ger Caerdydd
Arteffactau o ddiwedd yr Oes Efydd, y Canol Oesoedd a chyfnod y Tuduriaid a ganfuwyd yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg yn drysorau
Heddiw (22 Ebrill 2015) cadarnhawyd gan Grwner E.M. Caerdydd a Bro Morgannwg bod wyth darganfyddiad o ddiwedd yr Oes Efydd (tua 1000CC-800CC), y Canol Oesoedd (5ed i’r 15fed ganrif) a chyfnod y Tuduriaid (16eg ganrif) yn drysorau.
Arddangosfa newydd World Wide Weave yn Amgueddfa Wlân Cymru
Mae Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre, yn falch o groesawu arddangosfa newydd sbon y gwanwyn hwn.
Bydd arddangosfa Sefydliad Camphill, World Wide Weave, i’w gweld o ddydd Mawrth 21 Ebrill i ddydd Iau 7 Mai ac mae’n ychwanegiad cyffrous i’r safle.
Bregus? yw arddangosfa cerameg gyfoes gyntaf Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Bydd prydferthwch ac amrywiaeth cerameg gyfoes yn cael llwyfan hir-ddisgwyliedig mewn arddangosfa yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd rhwng 18 Ebrill a 4 Hydref 2015. Mae cerameg yn gyfrwng cyfoes bywiog a chymhleth, a nod Bregus? yw amlygu hyn drwy arddangos cerameg gyfoes o gasgliadau Amgueddfa Cymru ac Ymddiriedolaeth Derek Williams, gweithiau comisiwn newydd a benthyciadau pwysig.
Amgueddfa Cymru – digwyddiadau ac arddangosfeydd Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf yn 2015
Yn dilyn rhaglen helaeth o ddigwyddiadau llynedd i nodi 100 mlynedd ers dechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf, mae Amgueddfa Cymru yn parhau i gofio’r rhyfel eleni gyda chyfres o arddangosfeydd, digwyddiadau a phrojectau newydd ar draws y saith amgueddfa.
Hela ffosilau gydag Amgueddfa Cymru yn Sioe Flodau’r RHS, Caerdydd
Mae’r haul yn tywynnu a’r coed yn blaguro – mae’n wanwyn o’r diwedd! Os ydych yn chwilio am rywbeth arbennig i’w wneud yng Nghaerdydd, beth am ddod draw i faeddu’ch dwylo a dysgu am natur? Yn Sioe Flodau’r Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol yng Nghaerdydd, Gwener 17 – Sul 19 Ebrill, bydd gan Amgueddfa Cymru stondin lle bydd cyfle i bawb roi cynnig ar chwilio am ffosilau ac adnabod planhigion trofannol.