Datganiadau i'r Wasg
54 erthyglau. Tudalen: 1 3 4 5 6 7 8 9
Opera gymunedol yn chwilio am gyfranwyr ar Ynys Môn
Mae’r gwaith o ailadeiladu un o lysoedd canoloesol Tywysogion Gwynedd, Llys Rhosyr yn Ynys Môn, yn mynd rhagddo yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, Caerdydd. Y flwyddyn nesaf bydd gwahoddiad i bobl Ynys Môn gymryd rhan mewn opera newydd sbon wedi’i hysbrydoli gan y tywysog Llywelyn Fawr. I glywed mwy am project hwn, mae cyfres o weithdai wedi’u trefnu ar gyfer pobl leol ar draws yr ynys o ddydd Mawrth 8 Tachwedd i ddydd Gwener 12 Tachwedd. (I archebu lle, cysylltwch â Ceri Williams yn Oriel Ynys Môn ar 01248 752189.)
Chwilota’r traeth i ddatgelu gorffennol Abertawe
Pobl ifanc Abertawe yn darganfod eu treftadaeth
Peidiwch â’i wastraffu!
Bydd arddangosfa fawr i’w gweld yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau o 22 Hydref, yn canolbwyntio ar y pethau anhygoel y gellir eu gwneud gyda gwastraff a sbwriel.
Datganiad gan Amgueddfa Cymru ynglŷn â Chyhoeddiad Cyllideb Drafft Llywodraeth Cymru
"Rydym yn croesawu'r cyhoeddiad heddiw ynghylch y cynnydd arfaethedig i'n cyllideb.
Amgueddfa Cymru yn caffael gosodion lle tân 300 oed
Pâr o heyrn aelwyd Siarl II wedi’i achub ar gyfer y genedl
Argraffu yn yr Amgueddfa
Mae cyfrifiaduron yn caniatáu i ni symud paragraffau o gwmpas, a newid ffont a maint llythrennau gydag un cyffyrddiad cyn printio. Mae’n hawdd anghofio pa mor galed oedd argraffwyr y gorffennol yn gweithio i greu tudalen o lyfr neu boster.
Nawr mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe yn rhoi cyfle i bawb weld pa mor anodd oedd argraffu ers talwm fel rhan o raglen Drysau Agored Llywodraeth Cymru.