Datganiadau i'r Wasg
54 erthyglau. Tudalen: 1 2 3 5 6 7 8 9
Posteri o oes aur y rheilffyrdd yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn falch iawn o allu cyhoeddi arddangosfa newydd dros yr haf yn rhoi sylw i rai o’r posteri rheilffyrdd mwyaf deniadol a phoblogaidd o ddiwedd y 19eg ganrif.
Enw’r arddangosfa yw Golygfa o Gymru: Posteri Rheilffyrdd Cymru, a chaiff y posteri lliwgar eu harddangos yn erbyn golygfeydd o blatfform gyda meinciau ac ati, i greu’r teimlad o aros am drên.
Dau ysgeintiwr arian yn cwblhau darn canol Bodelwyddan o’r 18fed ganrif
Dros y chwe blynedd diwethaf, mae Darn Canol Arian Williams – neu Ddarn Canol Bodelwyddan – wedi bod yn cael ei arddangos yng Nghastell Bodelwyddan. Er ei fod yn drysor poblogaidd yn yr amgueddfa a’r tŷ hanesyddol yng ngogledd-ddwyrain Cymru, roedd dau ysgeintiwr ar goll o’r darn canol arian - y cynharaf o’i fath ym Mhrydain.
Ail-greu’r Deinosor Cymreig
Bydd atyniad cyffrous newydd i’w weld yn orielau Hanes Natur Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd o ddydd Mawrth 5 Gorffennaf ymlaen. Bydd ail-gread maint llawn o’r deinosor Cymreig Dracoraptor hanigani i’w weld ar graig wrth ymyl deinosoriaid eraill yr Amgueddfa yn oriel Esblygiad Cymru.
Brwydr Coed Mametz ar lwyfan yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Mae 2016 yn flwyddyn canmlwyddiant Brwydr Coed Mametz, un o’r brwydrau mwyaf arwyddocaol a gwaedlyd i gael ei hymladd gan filwyr Cymreig yn y Rhyfel Byd Cyntaf, ac ym mis Gorffennaf bydd y frwydr yn dod yn fyw ar lwyfan yng Nghaerdydd. Bydd InterAct (Cymru), mewn partneriaeth ag Amgueddfa Cymru, yn llwyfannu eu cynhyrchiad ‘Mametz Wood’ yn Narlithfa Reardon Smith, Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar ddydd Sadwrn 9 Gorffennaf (1pm, 3pm a 6pm) a dydd Sul 10 Gorffennaf (1pm, 3pm). Mynediad am ddim, addas i oed 8+.
Diwedd ar yr anghydfod ynghylch lwfansau penwythnos yr amgueddfa
Mae Amgueddfa Cymru ac undeb PCS (Public and Commercial Services Union) wedi dod i gytundeb ar ddyfodol y taliadau premiwm, sef lwfans ychwanegol a dalwyd i staff cymwys yr Amgueddfa am weithio ar benwythnosau a gwyliau banc.