Datganiadau i'r Wasg
32 erthyglau. Tudalen: 1 3 4 5 6
O gasgliad gemau i arddangosfa gyfan – Gêm wrth Gêm
Caiff hanes gemau fideo ei adrodd wrth ddangos casgliad consolau personol yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau mewn arddangosfa newydd o’r enw Gêm wrth Gêm.
Sefydliad Garfield Weston yn noddi Canolfan Addysg newydd yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
Mae Sefydliad Garfield Weston – sefydliad elusennol, teuluol sy’n dyfarnu grantiau i gefnogi ystod eang o achosion ledled y DU – wedi rhoi grant hael i Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru i greu Canolfan Addysg newydd sbon.
Gwyl Fwyd Sain Ffagan yn dychwelyd...gyda cornel ddaionus newydd
Eleni, gall ymwelwyr â Gŵyl Fwyd Sain Ffagan gael saib rhag prysurdeb y byd yn ein cornel ddaionus newydd. Yn ogystal â blasu’r bwydydd a diodydd Cymreig gorau mewn lleoliad unigryw, byddwn hefyd yn cynnig sesiynau aromatherapi a yoga, a gall pobl ddysgu mwy am fwyd iachus yn y prif adeilad newydd. Cynhelir yr ŵyl yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru dros benwythnos 9 a 10 Medi 2017 rhwng 10am-5pm. Mae mynediad am ddim.
Amgueddfa Cymru’n penodi crefftwr ar gyfer Cadair Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018
Mae Amgueddfa Cymru wedi penodi crefftwr i greu Cadair Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018 a noddir gan y sefydliad i nodi pen-blwydd Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru yn 70 oed. Chris Williams o Pentre yn y Rhondda sydd yn cael yr anrhydedd o ddylunio a chreu’r Gadair ar gyfer y flwyddyn nesaf. Mae’n gerflunydd sy’n gweithio’n bennaf gyda phren ac yn cael ysbrydoliaeth o dirluniau daearol a seryddol.
Adrodd hanes Ynys Môn yn y Lle Hanes
Unwaith eto, bydd ymwelwyr i faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn cael y cyfle i ymweld â Y Lle Hanes – gofod sy’n dathlu hanes a threftadaeth unigryw bro’r Eisteddfod.
Partneriaeth yw Y Lle Hanes eleni rhwng Amgueddfa Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Cadw, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, Casgliad y Werin Cymru, Oriel Môn ac Ymddirideolaeth Archaeologeol Gwynedd.
Croeso o’r newydd i ymwelwyr yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru yr haf hwn
Y Prif Adeilad ar ei newydd wedd a Gweithdy, adeilad newydd sbon ar gyfer crefftau a chreu yn dynodi cam nesaf project ailddatblygu’r Amgueddfa