Datganiadau i'r Wasg

Mae'r ddalen hon yn dangos newyddion o Amgueddfa Cymru. Dewiswch teitl i ddangos yr erthygl llawn.

32 erthyglau. Tudalen: 1 2 3 4 5 6

Sain Ffagan am glywed eich straeon am y Gwasanaeth Iechyd

8 Mehefin 2017

Mae’r Gwasanaeth Iechyd yn rhan o’n bywydau ‘o’r crud i’r bedd’ ond nid oes un amgueddfa’n croniclo hanes y sefydliad rhyfeddol hwn. Mae haneswyr o Brifysgol Warwick – dan nawdd Ymddiriedolaeth Wellcome – wedi bod yn teithio’r DU i gofnodi profiadau a barn y bobl tuag at y Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Ond bellach mae angen eich help chi i greu rhith amgueddfa ar gyfer y GIG.

Darganfod y deinosor coll yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

27 Mai 2017

Wedi dyddiau o chwilio, mae’r deinosor oedd ar droed yng Nghaerdydd wedi ymddangos yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, ac mae’n gyfeillgar wedi’r cyfan, meddai Amgueddfa Cymru.

Casgliad Ffotograffiaeth David Hurn yn cael ei roi i Amgueddfa Cymru

18 Mai 2017

David Hurn yw un o ffotograffwyr dogfennol mwyaf dylanwadol Prydain. Ac yntau bellach yn byw ac yn gweithio yma yng Nghymru, mae wedi dychwelyd at ei wreiddiau Cymreig – ac yma y bydd ei gasgliad o ffotograffau’n aros diolch i’w rodd hael.

20 Mlynedd o Drysor

9 Mai 2017

Mae dau ddarganfyddiad o Gymru wedi cyrraedd rhestr fer o 20 darganfyddiad trysor pwysicaf y Deyrnas Unedig. I ddathlu 20 mlynedd ers cyflwyno’r Ddeddf Trysor ym 1996, mae’r Sunday Telegraph yn annog y cyhoedd i bleidleisio dros eu hoff drysor o’r rhestr.

Y sector treftadaeth yn agor drysau i wirfoddolwyr

8 Mai 2017

Ail Gynhadledd Gwirfoddolwyr Treftadaeth y DU yn dod i Gaerdydd

Ap straeon newydd yn dod â Sain Ffagan yn fyw

20 Ebrill 2017

Ers dros 70 mlynedd, mae miloedd o ymwelwyr wedi mwynhau crwydro tiroedd Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru. Bellach, gall ymwelwyr hen a newydd gael blas gwahanol ar yr Amgueddfa diolch i ap newydd. Mae Olion yn mynd â’r defnyddiwr ar daith drwy erddi castell Sain Ffagan, drwy ffaith a ffuglen ac o’r gorffennol i’r presennol.