Datganiadau i'r Wasg

Mae'r ddalen hon yn dangos newyddion o Amgueddfa Cymru. Dewiswch teitl i ddangos yr erthygl llawn.

33 erthyglau. Tudalen: 1 2 3 4 5 6

Datganiad ynghylch ailagor

10 Gorffennaf 2020

“Mae saith amgueddfa genedlaethol Cymru a’r Ganolfan Gasgliadau Genedlaethol ar gau ar hyn o bryd oherwydd pandemig COVID-19. Iechyd a lles ein hymwelwyr, staff a gwirfoddolwyr yw ein blaenoriaeth ac felly bydd ein safleoedd ar gau nes mae’n ddiogel i ni ailagor.

 

“Heddiw (dydd Gwener 10 Gorffennaf 2020) cyhoeddodd Prif Weinidog Cymru y bydd modd i sinemâu, amgueddfeydd ac orielau ailagor o 27 Gorffennaf.

 

“Rydym yn bwriadu ailagor tiroedd awyr-agored Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru am bedwar diwrnod yr wythnos (Mawrth, Iau, Sadwrn a Sul) o 4 Awst. Bydd yn brofiad gwahanol i ymwelwyr gan y bydd rhaid i’r tai hanesyddol a’r ardaloedd chwarae aros ar gau oherwydd y cyfyngiadau presennol. Bydd angen i ymwelwyr archebu tocyn o flaen llaw drwy ein gwefan (www.amgueddfa.cymru) neu dros y ffon.

 

“Yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru heddiw, rydym hefyd yn bwriadu ailagor amgueddfeydd cenedlaethol eraill Cymru yn raddol. Bydd hyn yn digwydd mewn dau gam, a bydd yn dibynnu ar gyfraddau’r feirws dros yr wythnosau nesaf:

 

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Amgueddfa Lechi Cymru ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau i ailagor yn ystod wythnos 24 Awst.
  • Amgueddfa Wlân Cymru, Big Pit ac Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru i ailagor o 1 Medi.

 

“Byddwn yn rhannu manylion pellach ar ein gwefan (www.amgueddfa.cymru) a’n cyfryngau cymdeithasol dros yr wythnosau nesaf.

 

“Rydym yn gweithio’n galed i sicrhau bod ein holl amgueddfeydd yn llefydd diogel i staff, gwirfoddolwyr ac ymwelwyr pan fyddant yn ailagor, gyda chanllawiau ar bellter cymdeithasol yn cael eu dilyn a nifer yr ymwelwyr yn cael ei reoli. Mae hyn yn cynnwys system archebu newydd oherwydd, er y bydd mynediad am ddim i’n hamgueddfeydd yn parhau, bydd gofyn i ymwelwyr archebu ymweliad ymlaen llaw er mwyn osgoi cael eu siomi.

 

“Dros yr wythnosau diwethaf, rydym wedi bod yn adolygu sut y gallwn gefnogi ein cymunedau trwy’r cyfnod anodd hwn – o bell, a phan fyddwn yn gallu ailagor ein hamgueddfeydd. Rydym wedi lansio apêl gyhoeddus newydd a phroject digidol enfawr i gasglu profiadau trigolion Cymru yn ystod COVID-19: https://amgueddfa.cymru/casglu-covid/

 

“Fel elusen, mae sefydlogrwydd ariannol Amgueddfa Cymru hefyd yn flaenoriaeth. Ar hyn o bryd rydym yn colli tua £400k o incwm y mis. Rydym ar gau i’r cyhoedd, a hyd yn oed pan fyddwn yn ailagor fydd dim modd i ni adfer y colledion hyn yn llwyr oherwydd y canllawiau ynghylch ymbellhau cymdeithasol. Rydym felly wedi cymryd camau eraill i warchod y sefydliad, gan roi dros 40% o’n staff ar ffyrlo trwy Gynllun Cadw Swyddi Llywodraeth y DU, a gweithio gyda’n noddwyr i ganfod ffynonellau incwm eraill. Bydd y gwaith hwn yn parhau ac rydym yn ddiolchgar am unrhyw gymorth i’n helpu i barhau i weithio gyda chymunedau Cymru a chyflawni ein rôl fel amgueddfa genedlaethol Cymru.”

Datganiad gan David Anderson, Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru

8 Gorffennaf 2020

"Yr wythnos hon, cyhoeddodd Llywodraeth y DU becyn cymorth £1.57 biliwn ar gyfer y celfyddydau, gyda £59m yn dod i Gymru.

"Rydym yn croesawu'r newyddion hyn yn fawr ar adeg pan fo'r sector amgueddfeydd yng Nghymru yn wynebu heriau oherwydd effaith COVID-19. 

"Rydym yn credu bod hwn yn gyfle i Gymru roi blaenoriaeth i amgueddfeydd a sefydliadau celfyddydol sydd wedi ymrwymo'n wirioneddol i gynhwysiant a rhoi anghenion pobl a chymunedau yn gyntaf. 

"Mae Amgueddfa Cymru, amgueddfeydd lleol a rhanbarthol i gyd yn rhan hanfodol o'r celfyddydau yng Nghymru yn ysbrydoli plant a phobl ifanc i ymwneud â diwylliant. 

"Cyn COVID-19, denodd Amgueddfa Cymru bron 2 filiwn o ymwelwyr, gan gynnwys 200,000 o ddisgyblion ysgol, drwy ei drysau bob blwyddyn. Fel un o atyniadau ymwelwyr pennaf Cymru, byddwn yn chwarae ran allweddol yn adferiad economaidd a chymdeithasol Cymru a phob un o'i chymunedau.

 

"Gadewch i ni sicrhau nad yw hyn yn ymrwymiad tymor byr i gefnogi amgueddfeydd a'r celfyddydau, ond yn arwydd o'r flaenoriaeth a roddir i ddiwylliant yng Nghymru."

 

Datganiad ar Ail agor

19 Mehefin 2020

Mae saith amgueddfa genedlaethol Cymru a’r Ganolfan Gasgliadau Genedlaethol ar gau ar hyn o bryd oherwydd pandemig COVID-19. Iechyd a lles ein hymwelwyr, staff a gwirfoddolwyr yw ein blaenoriaeth ac felly bydd ein safleoedd ar gau nes mae’n ddiogel i ni ailagor.

Ein datganiad i'r ymgyrch Black Lives Matter

3 Mehefin 2020

Yn yr amser hwn o drallod eithafol i bobl dduon ledled y byd, safwn gyda ein cymunedau du yng Nghymru, ein hymwelwyr, partneriaid, staff a gwirfoddolwyr yn y frwydr yn erbyn anghyfartaledd ac anghyfiawnder hiliol, wrth i ni ddatgan bod bywydau du o bwys, #BlackLivesMatter.

Mae casgliadau amgueddfeydd yn aml wedi’u gwreiddio mewn trefedigaethu a hiliaeth. Nid yw Amgueddfa Cymru yn eithriad yn hyn o beth.

Rydym yn cefnogi pob ymgais i greu sector amgueddfeydd sy’n sefyll yn gadarn dros hawliau dynol ac yn erbyn hiliaeth. Mae gennym rôl i’w chwarae wrth wthio’r newid yn ei flaen, gan weithio gyda chymunedau Cymru i wrthwynebu hiliaeth ym mhopeth a wnawn.

Mae gennym waith i’w wneud, ond ar y cyd â’n partneriaid cymunedol a’n Harweinwyr Treftadaeth Ifanc rydym yn cynyddu amrywiaeth o fewn ein casgliadau, yn cynyddu cynrychiolaeth, ac yn cyfrannu at sgyrsiau sy’n tynnu sylw at ddad-drefedigaethu, anghyfartaledd a hiliaeth.

Bydd ein hymrwymiad yn parhau y tu hwnt i’r sefyllfa bresennol, oherwydd gall deall yr heriau a wynebwyd yn y gorffennol rymuso pobl i ddod ynghyd i fynd i’r afael â materion heddiw.

Bywyd o dan y cyfyngiadau: Amgueddfa Cymru yn lansio apêl gyhoeddus

6 Mai 2020

Mae Amgueddfa Cymru yn lansio apêl gyhoeddus a phroject arsylwi torfol digidol er mwyn casglu profiadau pobl sy’n byw yng Nghymru yn ystod cyfnod eithriadol Covid-19.

Datganiad COVID-19 gan Amgueddfa Cymru

17 Mawrth 2020

Mae holl amgueddfeydd Amgueddfa Cymru ar gau i’r cyhoedd er mwyn diogelu iechyd a lles staff, gwirfoddolwyr ac ymwelwyr yn ystod yr argyfwng Coronafeirws.