Cyfoeth Cymru Gyfan — Sharing Treasures

Gwyliau i'r Brenin

Gwyliau i'r Brenin

Cefnogi’r gwaith o fenthyg y casgliadau cenedlaethol ar draws Cymru yw swyddogaeth y cynllun hwn. Mae’n hybu partneriaethau sefydlog rhwng amgueddfeydd lleol, Amgueddfa Cymru a sefydliadau cenedlaethol eraill, er mwyn cydweithio ar weithgareddau ategol arddangosfeydd yn ogystal â datblygu sgiliau.

Lansiwyd cyfnod prawf yn 2002 gyda phum amgueddfa yn cymryd rhan ac er 2004 mae’r cynllun wedi ei weinyddu gan CyMAL: Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd Cymru. Argymhelliad arolwg a gynhaliwyd yn 2010 oedd ehangu’r cynllun gan alluogi llyfrgelloedd ac archifau i gymryd rhan yn ogystal ag amgueddfeydd. Cafodd partneriaid blaenorol eu hannog i wneud defnydd pellach o adnoddau gwell a sefydliadau llai eu cymell i ymgeisio. Gwnaed argymhelliad pellach i ddatblygu projectau gyda sefydliadau Cenedlaethol eraill yn y DU ac i ddatblygu arddangosfeydd teithiol.

Er 2002 mae tair ar ddeg o amgueddfeydd wedi derbyn nawdd a £730,000 a mwy wedi’i fuddsoddi, gyda £630,000 o’r nawdd yn dod o goffrau Llywodraeth Cymru. Yn 2012-2013 yn unig, rhyddhaodd Cronfa Dreftadaeth y Loteri £100,000 ychwanegol ar gyfer rhaglen Eich Treftadaeth yn ogystal â’r £100,000 a gyfrannwyd gan Lywodraeth Cymru.