Darganfod Trysorau Cymru

Darganfod Trysorau Cymru

Dechreuwch ddarganfod trysorau Cymru gyda’n hymgyrch haf i deuluoedd. Codwch eich pasbort am ddim, a chychwyn ar antur o gwmpas amgueddfeydd, cestyll, tai hanesyddol ac abatai’r wlad.

Rydym wedi cydweithioâ Cadw a Llyfrgell Genedlaethol Cymru i greu 6 antur, mewn 6 gwahanol ardal yng Nghymru. Mae pob antur yn llawn llefydd cyffrous i ymweld â nhw. Mae’r pasbort hefyd yn cynnwys cwestiynau cwis, a gall anturwyr ifanc ddarganfod yr atebion wrth grwydro’r wlad.

Cefnogir yr ymgyrch hon gan nawdd Croeso Cymru.