Plant y Chwyldro

Cynhyrchwyd gan Gyngor Dinas Casnewydd ac Amgueddfa Cymru

Y Sefyllfa

Y flwyddyn yw 1842. Mae diwydiant yn tyfu ar raddfa fawr ac mae Prydain yn dod yn gyfoethog iawn. Fodd bynnag, mae llawer o weithwyr Prydain yn dlawd, yn newynog ac yn sâl drwy’r amser. Mae rhai Aelodau Seneddol yn poeni llawer am hyn, ac mae’r Frenhines Fictoria wedi dweud bod angen cynnal ymchwiliad arbennig i ganfod pam bod ei phobl yn dioddef fel hyn.

Eich Cenhadaeth

Rydych chi’n arolygydd arbennig sydd wedi cael ei anfon i Flaenafon i ganfod sut brofiad yw byw a gweithio mewn tref ddiwydiannol newydd. Byddwch chi’n ymchwilio i’r pedair agwedd ar fywyd a ddisgrifir yn y tasgau isod ac yn casglu tystiolaeth ar gyfer adroddiad i’r Frenhines. Yn yr adroddiad hwn dylech ddisgrifio’r hyn rydych chi wedi’i ddysgu ac awgrymu’r hyn sydd angen ei wneud i wella bywydau gweithwyr.

Tasgau

Bydd y tasgau yn cwmpasu:

Dylech ymchwilio i’r tasgau hyn yn y drefn uchod cyn mynd ati i lunio’ch adroddiad terfynol.

Pob Lwc!