Arddangosfeydd ac Arteffactau

Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

Dysgwch beth a wnaeth y Rhufeiniaid yn rym aruthrol a sut fyddai bywyd wedi bod yn wahanol iawn hebddynt.

Craffwch ar y darn ysgrifenedig hynaf yng Nghymru, ddarganfuwyd mewn ffynnon ar safle’r Amgueddfa.

Mae gan yr Amgueddfa hon un o’r casgliadau mwyaf o emfeini a ganfuwyd yn yr Ymerodraeth Rufeinig. Darganfuwyd y gemau cerfiedig cain hyn o dan olion baddondai’r gaer. Fe’u collwyd gan ymdrochwyr rhwng 80 a 230 OC.

Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

Rhowch gipolwg ar gynnwys rhyfeddol Arch Carreg Caerfaddon i ganfod esgyrn dyn o’r 2il/ddechrau’r 3ydd ganrif, a gladdwyd gyda photel gwydr o eli persawrus a chwpan siâl.

Yn ogystal â nifer o uchafbwyntiau unigol, mae yna ddigon o

grochenwaith Rhufeinig dilys a thaclau eraill ar ddangos yn yr oriel, yn cynnwys padell ffrio haearn â dolen blygedig i ffitio mewn pac milwr.
Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

Mae’r ail-gread o’r Barics yn dangos sut y gallai’r tu mewn i flociau barics y gaer fod wedi edrych (gweler

Adfeilion Rhufeinig), gan roi syniad o amodau byw'r milwyr Rhufeinig.

Ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau ysgol (galwch ymlaen am dyddiadau penodol), gall plant gamu’n ôl mewn amser mewn ystafell barics maint iawn, rhoi cynnig ar wisgo replica o arfwisg a phrofi bywyd milwr Rhufeinig!