Gardd Rufeinig

Mwynhewch olygfeydd, synau ac arogleuon ein Gardd Rufeinig brydferth.

Roedd y Rhufeiniaid yn plannu ffrwythau, llysiau a pherlysiau ar gyfer bwyd a moddion, a defnyddiwyd nifer o blanhigion a blodau mewn defodau crefyddol.

Daethant â chynlluniau eu gerddi gyda nhw yn 43 OC, ond cyfyngodd yr hinsawdd ar yr amrywiaeth o blanhigion a allai ffynnu.

Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

Dewch atom ni i weld sut gallai gardd Rufeinig ym Mhrydain fod wedi edrych, gyda pherthi, llawrwydd a gwinwydd yn dringo’r tricliniwm - ardal fwyta awyr agored, fel ein patios, celfi gardd a’n gasebos ni heddiw.

Efallai wnewch chi synnu o wybod mai’r Rhufeiniaid ddaeth â nifer o’r planhigion sydd yn ein gardd i Brydain. Mae rhai ohonynt yn adnabyddus, eraill yn anghyffredin, ac ambell un all edrych yn gyfarwydd ond heb i ni eu cysylltu â’r Rhufeiniaid. Y Rhufeiniaid ddaeth â gerddi addurniadol i Brydain – mannau ar gyfer hamddena a mwynhau.

Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

Roedd y Rhufeiniaid ymysg y bobl gynharaf i ddefnyddio gerddi fel addurniadau. Ystyriwyd y gerddi’n ystafelloedd allanol - estyniad o’r tŷ - yn union fel nifer o’n gerddi ni heddiw. Y lle perffaith i ddiddanu gwesteion, ymlacio a dadflino.

Rydym yn dal i ddefnyddio technegau garddio a garddwriaethol a sefydlodd y Rhufeiniaid 2,000 o flynyddoedd yn ôl, o droi’r pridd yn yr hydref a chymysgu compost i hofio gwelyau a hau hadau yn y gwanwyn.

Dewch draw i weld drosoch eich hun. Efallai y cewch chi syniadau gwych ar gyfer eich gardd eich hun.