Arddangosfeydd a Rhaglenni Rhyngwladol

J M W Turner, Fort de L'Esseillon, Val de la Maurienne, 1836 [NMW A 1744]

Claude Monet, San Giorgio Maggiore yn y Gwyll, 1908

Ffrainc a Phrydain: Celf yr oes newydd 1817 - 1917

Arddangosfa yn ymweld â chwe dinas yn Japan, Ebrill 2017–Mehefin 2018

Bydd arddangosfa newydd gan Amgueddfa Cymru, yn canolbwyntio ar gelf Ffrainc a Phrydain yn y 19eg ganrif, yn teithio yn Japan o Ebrill 2017 tan fis Mehefin 2018. Mae’r daith yn arwydd o enw da rhyngwladol casgliadau celf Amgueddfa Cymru, ac yn benodol y casgliad arbennig a adawyd i ni gan Gwendoline a Margaret Davies.

Mae’r thema Ffrainc a Phrydain: Celf yr oes newydd 1817–1917 yn adlewyrchu cryfder y casgliad: y berthynas rhwng celf Brydeinig a Ffrengig yn y 19eg a’r 20fed ganrif. Roedd dylanwadau’n teithio i’r ddau gyfeiriad; rhwng Turner a Constable ym Mhrydain, a Monet a Cézanne yn Ffrainc, gan siapio dyfodol celf.

Trefnwyd yr arddangosfa gan Amgueddfa Cymru mewn partneriaeth â White International Relations, ac mae’n cynnwys paentiadau, darluniau a lluniau dyfrlliw wedi’u dewis o gasgliad celf cenedlaethol Cymru.

Mae Ffrainc a Phrydain: Celf yr oes newydd 1817–1917 yn teithio i chwe lleoliad:

Mae Ffrainc a Phrydain: Celf yr oes newydd 1817–1917 yn rhychwantu’r cyfnod rhwng colled y Ffrancwyr ym mrwydr Waterloo a chwalfa’r Rhyfel Byd Cyntaf – canrif lle’r oedd y berthynas rhwng Prydain a Ffrainc yn gyfeillgar. Roedd hynny’n fodd i artistiaid a syniadau gael eu rhannu rhwng y ddwy wlad. O’r ofnau am dlodi gwledig ac anniddigrwydd ymysg gweithwyr, i’r ymgais ddiwedd y 19eg ganrif i dorri’n rhydd o gyfyngiadau academiaeth, mae’r 57 paentiad olew a’r 32 o ddarluniau a dyfrlliwiau yn adrodd hanes newidiadau dramatig ym myd celf.

Amgueddfa Three Gorges, Chongqing, Tsieina

Amgueddfa Three Gorges, Chongqing, Tsieina

Hywel Dda

Hywel Dda

Castell Dolbadarn

Castell Dolbadarn

Medalau Gemau Olympaidd Llundain 2012 a wnaed yn y Bathdy Brenhinol, Llantrisant (c) LOCOG

Medalau Gemau Olympaidd Llundain 2012 a wnaed yn y Bathdy Brenhinol, Llantrisant © LOCOG

Dathlu Cymru yn Tsieina

Mae Amgueddfa Three Gorges yn Chongqing, Tsieina yn cynnal arddangosfa newydd sbon ar hanes Cymru, 'Wales, Land Of The Red Dragon' rhwng 4 Mawrth a 30 Mehefin 2013.

Trefnwyd yr arddangosfa gan Amgueddfa Cymru fel rhan o ddathliadau wythnos Cymru yn Chongqing 2013.

Mae Wales, Land Of The Red Dragon yn gyflwyniad i Gymru ac yn arddangos nifer o wrthrychau pwysig o'n casgliadau eang.

Ceir cip ar gymeriad unigryw Cymru drwy ei diwylliant a’i hieithoedd, ei hanes a’i thirwedd.

Ymhlith y themâu pwysig mae’r cyfraniadau niferus gan Gymry i ddiwylliant byd-eang, megis twf diwydiant modern yn y 18fed a’r 19eg ganrif, datblygiad gwyddor daeareg a’r frwydr dros hawliau’r werin bobl.

Caiff hanes Cymru ei adrodd yn llawn – o goncwest y Rhufeiniaid i goncwest y Saeson yn y 13eg ganrif, ac o fod ar flaen y gad yn y chwyldro diwydiannol i gyfrannu at esblygiad y byd modern.

Ymhlith uchafbwyntiau’r arddangosfa newydd, a noddir gan Lywodraeth Cymru, mae:

  • Cwpan aur a chaead ‘Castell Carn Dochan’ a ddarganfuwyd yng ngogledd Cymru ym 1863 ac a fu'n eiddo i Syr Watkin Williams-Wynn o Sir Ddinbych.
  • Dysgl a phowlen borslen, gwnaed yn Tsieina tua 1760 – drwy gydol y ddeunawfed ganrif byddai teuluoedd cyfoethog Ewrop yn archebu llestri cinio o Tsieina ag arnynt arfbais y teulu yn addurn a symbol o statws.
  • Ffan addurniadol cymhleth o lechen, a wnaed gan chwarelwr o Gymro tua 1910.

Mae’r arddangosfa yn ffrwyth partneriaeth rhwng Amgueddfa Cymru ac Amgueddfa Three Gorges yn rhanbarth ddinesig Chongqing, sy’n deillio o gytundeb a lofnodwyd yn 2008.

Yn 2011, cynhaliwyd arddangosfa hynod lwyddiannus yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd o’r enw O Lethrau Serth: Cerfiadau Carreg Hynafol o Dazu, Tsieina. Trefnwyd yr arddangosfa honno ar y cyd ag Amgueddfa Cerfiadau Carreg Dazu dan nawdd Swyddfa Ddiwylliant Chongqing.

Meddai Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru, David Anderson:

"Mae’n bleser gennym gael cyflwyno’r arddangosfa bwysig hon am Gymru i Amgueddfa Three Gorges wedi llwyddiant hynod yr arddangosfa ar Dazu yma yng Nghaerdydd.

"Mae gweithio’n rhyngwladol yn un o’n blaenoriaethau pennaf ac mae’r bartneriaeth hon yn ffordd wych o hyrwyddo casgliadau Amgueddfa Cymru yn Tsieina. Bydd yn gyfle i ni adrodd stori Cymru i gynulleidfa newydd ac i ymwelwyr ddysgu mwy am ddiwylliant, hanes ac amgylchfyd cyfoethog ein cenedl.

"Gobeithiaf y caiff ymwelwyr eu hysbrydoli a’u haddysgu. Pa ffordd well i ddathlu parhad a llwyddiant y cyswllt rhwng Chongqing a Chymru."

-->

Sôn wrth y byd am Gymru

Gwaith rhyngwladol yw un o'n prif flaenoriaethau. Rydym yn datblygu proffil rhyngwladol Amgueddfa Cymru trwy nifer o brojectau a phartneriaethau, er mwyn i ni allu hyrwyddo ein casgliadau ardderchog ledled y byd.

Mae'r Amgueddfa'n chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o hyrwyddo delwedd gadarnhaol o Gymru. Ar unrhyw adeg, mae cannoedd o weithiau celf ar fenthyg i amgueddfeydd ac orielau ledled y byd.

Mae projectau'r gorffennol fel taith Turner to Cezanne: Masterpieces from the Davies Collection i UDA (2009/10), Gŵyl Bywyd Gwerin Smithsonian (2009) a nifer o fentrau eraill o fudd i Gymru gyfan, nid y sectorau diwylliant a thwristiaeth yn unig.

Mae ein gwefan yn dod â'n casgliadau a'n hymchwil yn fyw i gynulleidfaoedd ledled y byd, gan sicrhau presenoldeb Cymru ar lwyfan y byd.

Os hoffech ein cynorthwyo i hyrwyddo Cymru dramor, cysylltwch â

Heledd Fychan

.