Athrawon

Am ddim Dan arweiniad athro

Her Menter a Chyflogadwyedd - Bagloriaeth Cymru

Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

CA4 - Cenedlaethol/Sylfaen

 

Dyma weithgareddau ag adnoddau wedi eu creu gan Ross Thomas ac Amgueddfa Cymru i’ch cefnogi chi wrth gyflwyno maes llafur newydd Bagloriaeth Cymru 2015.

Mae’r adnoddau yn cynnwys dogfen her ar gyfer eich darn o waith fydd yn cael ei asesu, ynghyd â her i helpu myfyrwyr i baratoi a datblygu sgiliau ar gyfer eu project.

I brofi byd busnes a gwaith mae angen i chi weithio gyda’ch gilydd fel tîm o 3-6 a defnyddio eich sgiliau a’ch gwybodaeth rydych wedi casglu wrth ymchwilio Amgueddfa Cymru i gynllunio, dylunio a datblygu cynnyrch newydd yn seiliedig ar gasgliadau’r amgueddfeydd. Rhaid i’r cynnyrch fod yn gost-effeithiol, arloesol ac yn addas ar gyfer gwerthiant yn siopau Amgueddfa Cymru.

Mae yna weithdai ychwanegol i gefnogi eich gwaith cwrs. Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth. Codir tâl am rai sesiynau.

Tâl: Am ddim gan fod y sesiwn dan arweiniad athro.

Cwricwlwm

Bagloriaeth Cymru CA4 - Cenedlaethol/Sylfaen

Her Menter a Chyflogadwyedd – Cynnyrch

Am ddim Yn yr ysgol

Mathemateg ac Amgueddfeydd

Mathemateg ac Amgueddfeydd

Pecyn digidol newydd i gefnogi’r fframwaith rhifedd mewn ysgolion cynradd.

22 o weithgareddau cyfrwng Cymraeg ar gyfer disgyblion blwyddyn 6 i hybu sgiliau rhif, geometreg, mesur a data.

Datblygwyd y pecyn hwn mewn partneriaeth â Gwawr Gwyddoniaeth. Noddwyd y pecyn hwn trwy grant gan yr Academi Wyddoniaeth Genedlaethol.

Tâl: I'w defnyddio yn yr ysgol - am ddim.

Teacher's Guide to Roman Caerleon (saesneg yn unig)

Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

 

Dyma becyn newydd cyffrous sy’n eich helpu chi i ddod â’r henebion yn fyw i’r dosbarth. Mae’r pecyn yn cynnwys llyfryn sy’n esbonio cefndir gwahanol agweddau ar fywyd Rhufeinig yn y gaer gydag awgrymiadau am gwestiynau, atebion a gweithgareddau. Mae’n cynnwys 12 o luniau lliw A3 sy’n ail-greu bywyd y Rhufeiniaid, a llinyn fesur Rhufeinig. Mae’r pecyn ar gael yn Saesneg yn unig ar hyn o bryd.

£24.45 gan gynnwys postio a phacio