Addysg Oedolion

Am ddim Dan arweiniad athro

Ymweliad i Gaerllion (Hydref 2018 – Gorffennaf 2019)

Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

Mae'r Amgueddfa ar gau i’r cyhoedd  tan hydref 2019 oherwydd gwaith cynnal a chadw hanfodol ar y to.

Er y bydd oriel yr Amgueddfa ar gau, gall grwpiau fwynhau ymweliad i'r Amffitheatr, Barics Rhufeinig a'r Faddondai Rhufeinig.

Archebwch ychydig fisoedd ymlaen llaw i osgoi cael eich siomi.

Tâl: Am ddim gan fod y sesiwn dan arweiniad athro.

Pecyn Archwilio: yr Amffitheatr a’r Barics

Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

Mae’r atgynhyrchiad hwn o fag ysgol Rhufeinig yn cynnwys cyfarwyddiadau, gwybodaeth a gwrthrychau er mwyn helpu eich grŵ i ddeall sut oedd y Rhufeiniaid yn defnyddio’r amffitheatr a’r barics. Mae’r gwrthrychau’n cynnwys ceiniogau Rhufeinig, caltrops a byngau ar brennau.

Nid oes angen blaendal ond mae'n rhaid i'r bag gael ei lofnodi am gan arweiniad y grŵp

Gallwch lawrlwytho y cyfarwyddiadau cyn eich ymweliad. 

Hyd: 1 awr

Gwirfoddoli

Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli ar gyfer yr amgueddfa ewch i'r tudalennau gwirfoddoli.