Sut i Archebu - Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

Model o filwr Rhufeinig

Archebu Lle

Rhaid i ysgolion a grwpiau archebu ymlaen llaw. Ffoniwch (029) 2057 3546 i gadw lle (Llun-Gwen 10.00am — 2.00pm).

E-bost: addysg.rhufeinig@amgueddfacymru.ac.uk

Byddwn yn anfon cadarnhad ysgrifenedig o’ch archeb wedyn. Cofiwch ddarllen hwn yn ofalus.

Prisau

Codir tâl am sesiynau sy'n cyd-fynd â'r cwricwlwm, a sydd dan arweiniad staff yr amgueddfa. Mae pedwar pris gwahanol (heb gynnwys TAW):

  • Sesiwn hyd at awr o hyd ar gyfer hyd at 15 disgybl – £40
  • Sesiwn hyd at awr o hyd ar gyfer hyd at 35 disgybl – £60
  • Sesiwn hyd at hanner diwrnod ar gyfer hyd at 35 disgybl – £100

Mae grwpiau Anghenion Addysgol Arbennig yn gymwys ar gyfer sesiynau am ddim.

Anfonir anfoneb i’ch ysgol ar ôl diwrnod yr ymweliad.  Nid yw’r prisiau yn cynnwys TAW ond gall y rhan fwyaf o ysgolion ei hawlio’n ôl gan eu Hawdurdod Lleol.

Canslo

Os caiff ymweliad ei ganslo wedi 10am ar y diwrnod blaenorol, neu os yw grŵp yn hwyr yn cyrraedd ac yn colli eu sesiwn, bydd yn rhaid talu’r pris llawn. Gellir codi tâl trafod o £25 am ganslo neu newid archeb.​ Os yw eich amgylchiadau’n newid, cysylltwch â’r tîm Addysg cyn gynted â phosibl er mwyn i ni roi eich lle i grŵp arall. Ffôn (029) 2057 3546. Gadewch neges ar y peiriant ateb os yw’r llinell yn brysur.

 

Cofiwch fod angen yr wybodaeth ganlynol wrth archebu’ch lle

  • Enw’ch ysgol / sefydliad
  • Cyfeiriad
  • Cod post
  • Rhif ffôn
  • Cyfeiriad e-bost
  • Enw’r athro / arweinydd y grŵp
  • Nifer y myfyrwyr
  • Ystod oedran
  • Oes gan unrhyw ddisgyblion anghenion ychwanegol y dylem wybod amdanynt?
  • Nifer y staff
  • Nifer y disgyblion ag anghenion addysgol arbennig

Oriau agor

Rydym ar agor saith diwrnod yr wythnos a’r rhan fwyaf o wyliau banc, rhwng 10am a 5pm.

Iechyd a diogelwch

Mae gwybodaeth iechyd a diogelwch i’ch helpu i gwblhau’ch asesiad risg ar gael

yma [PDF}.

Rhaid i rywun oruchwylio grwpiau o blant 16 oed ac iau bob amser.

Cymarebau oedolyn/plentyn:

  • 5–7 oed – 1 oedolyn:6 o blant
  • 8–11 oed – 1 oedolyn:10/15 o blant
  • 11+ oed – 1 oedolyn:15/20 o blant

Yr Adran Addysg a Sgiliau sydd wedi awgrymu’r cymarebau hyn. Dylai arweinwyr grwpiau asesu’r risgiau ac ystyried lefel oruchwylio ddiogel ar gyfer eu grwpiau nhw.

Ymweld

Mae lle parcio i fysiau ger yr Amffitheatr. Mae rhai o’r ffyrdd a’r palmentydd yng Nghaerllion yn gul iawn ac mae’r traffig yn gallu bod yn drwm yn ystod y dydd, felly cymerwch ofal wrth symud grwpiau o le i le.

Gweler Hygyrchedd i Grwpiau - Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru ⁠a ⁠Stori Weledol: ⁠Taith i Gaerllion y Rhufeiniaid am gymorth i gynllunio'ch ymweliad.

Cyrraedd yn hwyr

Os byddwch chi’n hwyr yn cyrraedd, rhowch wybod i ni drwy ffonio (029) 2057 3550.

Cyfleusterau i Ymwelwyr ag Anghenion Arbennig

Gweler Hygyrchedd i Grwpiau - Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru ⁠a ⁠Stori Weledol: ⁠Taith i Gaerllion y Rhufeiniaid am gymorth i gynllunio'ch ymweliad.

Mae canllawiau mynediad Cadw ar gael yn www.cadw.llyw.cymru neu drwy ffonio (029) 2050 0200

Dillad addas

Bydd y rhan fwyaf o’ch ymweliad dan do. Er hynny, dewch â dillad addas ar gyfer pob math o dywydd. Mae’r Amffitheatr a’r Barics yn gallu bod yn fwdlyd iawn yn ystod y gaeaf, felly dylid gwisgo esgidiau addas. Ychydig iawn o gysgod sydd yn y safleoedd awyr agored pan fo’r haul yn tywynnu.

Ar ôl cyrraedd

Bydd staff yn barod i’ch croesawu wrth brif fynedfa’r Amgueddfa. Byddant yn cadarnhau manylion eich ymweliad ac yn ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych. Byddwn angen gwybod faint yn union o ymwelwyr sydd yn eich grŵp.

Bwyd a diod

Mae amserlen eich ymweliad yn cynnwys seibiant i ginio. Byddwn yn darparu ystafell addas yn yr Amgueddfa er mwyn i grwpiau fwyta cinio. Gallwch fwyta cinio yn yr ardd os yw’n braf. Ewch â’ch sbwriel adref gyda chi. Dim bwyta nac yfed yn Oriel yr Amgueddfa.

Tai bach

Mae un tŷ bach â mynediad i bobl anabl, gyda lle i newid babanod, yn Oriel yr Amgueddfa. Mae tai bach i ddynion a menywod sy’n addas i blant yng Nghanolfan Capricorn yn ogystal â thŷ bach i’r anabl gyda chyfleusterau babanod. Y tu allan, mae tioled cyhyhoeddus drws nesaf i’r Amffitheatr.

Map

Mae map ar gael o dderbynfa’r Amgueddfa.

Lle i gadw cotiau a bagiau

Mae croeso i ymwelwyr ddefnyddio’r ystafell gotiau ger desg y brif dderbynfa wrth weithio yn Oriel yr Amgueddfa. Mae lle i gadw cotiau a bagiau yng Nghanolfan Capricorn hefyd.

Ffotograffiaeth

Mae croeso i ymwelwyr dynnu lluniau at ddibenion personol gydol yr ymweliad.

Ffonau symudol

Peidiwch â defnyddio’ch ffôn symudol yn yr Orielau er cwrteisi i ymwelwyr eraill.

Siop yr Amgueddfa

Mae’r siop yn gwerthu pob math o nwyddau amrywiol fel teganau bach, llyfrau a chardiau post. Helpwch i oruchwylio’ch grŵp drwy sicrhau nad oes mwy na 6 phlentyn yn y siop ar y tro.

Canllawiau’r Amgueddfa

Cofiwch gadw llygaid ar blant a phobl ifanc dan 16 oed drwy’r adeg.

Dim ysmygu yn unrhyw un o’n hadeiladau.

Ymweliadau rhagflas

Mae’r rhain ar gael i athrawon neu arweinwyr grwpiau sydd am gynefino â’r Amgueddfa. Ffoniwch i drefnu ymlaen llaw os ydych chi’n dymuno siarad ag aelod o’r tîm Addysg ar ddiwrnod eich ymweliad rhagflas.

Cymorth cyntaf ac anghenion meddygol

Os bydd angen cymorth cyntaf, cysylltwch ag un o gynorthwywyr neu Hwyluswyr yr Amgueddfa, a fydd yn galw am rywun sydd wedi cael hyfforddiant cymorth cyntaf.

Dylai arweinwyr grŵp gysylltu â’r tîm Addysg os oes gan aelod o’r grŵp unrhyw anghenion meddygol penodol.

Tân

Os bydd tân, bydd larwm yn canu, a dylai’ch grŵp adael yr adeilad drwy ddilyn yr arwyddion i’r allanfa dân agosaf. Cewch gyfarwyddiadau gan aelod o’r staff.

Plant ar goll

Byddwch yn ymweld â mwy nag un safle, felly cofiwch gadw’r grŵp gyda’i gilydd. Dywedwch wrth y plant i roi gwybod i aelod o’r staff os ydyn nhw ar goll. Os bydd arweinydd grŵp yn sylweddoli bod un o’r grŵp ar goll, dylai gysylltu ag aelod o’r staff ar unwaith.

Polisi amddiffyn plant

Mae polisi amddiffyn plant yr Amgueddfa ar gael yma.