Digwyddiadau

DigwyddiadAp Darganfod Caerleon

Wedi'i Orffen
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb

Hwyl wrth ddarganfod!

Defnyddiwch a Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru i grwydro’r Amgueddfa a’r Gerddi. Gallwch ddewis dilyn taith sain, neu daith ddarganfod, a gall y plant fynd ar helfa drysor i ddatgloi gemau cudd.

Lawrlwythwch yr ap i’ch dyfais symudol o Siop Apiau Apple a Google Play.

Bydd teithiau sain yn eich tywys o amgylch yr Amgueddfa, yn rhannu cip ar fywyd y Rhufeiniaid i gyfeiliant cerddoriaeth. Defnyddiwch y teithiau darganfod i ddatguddio hanesion difyr wrth i chi ddilyn eich trywydd eich hun.

I ddefnyddio'r ap, gallwch fenthyg iPad am ddim o’r dderbynfa, hefyd. Er mwyn sicrhau'r benthyciad, rydym yn derbyn cerdyn credyd/debyd, trwydded yrru neu basbort.

 

Ap Caerleon
Digwyddiadau