Rydym ar gau
Yn dilyn cyhoeddi cyfyngiadau Covid newydd gan Lywodraeth Cymru, rydym ar gau am y tro. Cadwch olwg ar ein gwefan a’n cyfryngau cymdeithasol am newyddion ynghylch ailagor.
Digwyddiad: App Darganfod Caerleon


Hwyl wrth ddarganfod!
Defnyddiwch app Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru i grwydro’r Amgueddfa a’r gerddi. Gallwch ddewis dilyn taith sain neu daith ddarganfod, a gall y plant fynd ar helfa drysor i ddatgloi gemau cudd.
Lawrlwythwch yr app am ddim i’ch dyfais symudol o Apple neu Google Play.
Bydd teithiau sain yn eich tywys o amgylch yr Amgueddfa, yn rhannu cip ar fywyd y Rhufeiniaid i gyfeiliant cerddoriaeth. Defnyddiwch y teithiau darganfod i ddatguddio hanesion difyr wrth i chi ddilyn eich trywydd eich hun.
I ddefnyddio'r app, gallwch fenthyg iPad am ddim o’r dderbynfa. Er mwyn sicrhau'r benthyciad, rydym yn derbyn cerdyn credyd/debyd, trwydded yrru neu basbort.