Coronafeirws (Covid-19)

Mae ein hamgueddfeydd ar gau oherwydd argyfwng Covid-19. A ninnau’n ofod cyhoeddus, byddwn ar gau tan i’r cyngor newid. Rydym wedi canslo pob rhaglen gyhoeddus a phob digwyddiad cyhoeddus a phreifat. Lles ein hymwelwyr, staff a gwirfoddolwyr yw ein blaenoriaeth.

Tra bydd ein hamgueddfeydd ar gau, gallwch barhau mewn cysylltiad â ni yma ar ein gwefan. Porwch ein casgliadau ar-lein, erthyglau am ein gwaith a gweithgareddau i’w gwneud yn eich cartref. Dewch i ddarganfod straeon newydd a rhannu’ch straeon chi ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol: Twitter, Facebook, Instagram.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â ni, byddwn yn eich ateb cyn gynted â phosibl. Diolch yn fawr iawn am eich dealltwriaeth a chefnogaeth barhaus. Cymrwch ofal, a chadwch mewn cysylltiad!

Digwyddiadau

Digwyddiad: Helfa Basg Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

Wedi'i Orffen
30 Mawrth–2 Ebrill 2018, 10am - 3pm
Pris £1.50
Addasrwydd Teuluoedd

Digwyddiad i’r teulu. Datryswch y cliwiau a dilyn y llwybr o gwmpas y safle, cyn brysio’n ôl i’r cychwyn i nôl gwobr wych!

Dim angen archebu ymlaen llaw – dewch draw a thalu ar y diwrnod. Ewch i'r siop Amgueddfa i gychwyn y daith.

Addas i blant 4+

Digwyddiadau