Digwyddiad: Digi Dig 1926 Llwybr Darganfod Rhufeinig

Chwiliwch am y trysor Rhufeinig a ganfuwyd yng Nghaerllion ym 1926!
Defnyddiwch yr app i grwydro'r amffitheatr a'r barics. Dilynwch y cliwiau a siarad â chymeriadau hanesyddol er mwyn canfod ble'n union y dadorchuddiwyd trysorau'r Amgueddfa. Casglwch bob trysor er mwyn canfod yr allwedd sy'n agor yr Amgueddfa Lleng Rufeinig Rithwir.
Sut i chwarae:
- Defnyddiwch eich dyfais a'r map trysor i ganfod y chwe chliw cudd yn yr amffitheatr a'r barics.
- Pan fyddwch chi'n agosáu at y trysor bydd ceiniog yn ymddangos ar eich dyfais. Mae pob ceiniog yn cuddio trysor a gweithgaredd.
- Casglwch bob un i agor yr Amgueddfa Lleng Rufeinig Rithwir.
Mae'r app yn broject partneriaeth rhwng Amgueddfa Cymru a Cadw. Mae'n cysylltu trysorau'r Amgueddfa a'r llefydd y cawsant eu canfod yn yr adeiladau hanesyddol dan ofal Cadw yng Nghaerllion.
Lawrlwytho ar gyfer iPhone
https://apps.apple.com/gb/app/national-roman-legion-museum/id1230121099
Lawrlwytho ar gyfer Android https://play.google.com/store/apps/details?id=com.locly94cb7f5f79c34169988e5d193303d164
CWESTIYNAU CYFFREDIN
- Rhaid i'r ffôn redeg system Android 4.3 neu iOS 9.1 neu ddiweddarach. Nid yw'r app yn gweithio ar rai ffonau clyfar rhad.
- Bydd angen cyswllt data i fwynhau'r app.
- Os ydych chi'n cael trafferth lawrlwytho'r app, gwnewch yn siŵr bod gennych gyswllt rhyngrwyd da a digon o gof ar eich ffôn.