Digwyddiadau

Digwyddiad: Triniaeth a Meddyginiaeth Rufeinig

Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru
Wedi'i Orffen
Bob dydd Gwener yn mis Awst, 11yb-1yp & 2-4yp
Pris Am Ddim
Addasrwydd Addas i ddysgwyr o bob safon
Archebu lle Galw heibio
Rufeinig wedi'i rhwymo
gardd rufeinig
logo Cyngor Casnewydd
Dyma logo gyda'r geiriau Haf o Hwyl, Summer of fun wedi eu hysgrifennu mewn glas ar gefndir hufen, uwchben y tecst mae amlinelliad o dri calon, y cyntaf yn binc gyda'r ail yn goch ar trydydd yn felyn

Hwyl i’r teulu a chyfle i sgwrsio a chodi hyder i ddefnyddio eich Cymraeg.

Addas i ddysgwyr o bob safon

  • Ymwelwch ag un o feddygon Byddin Rhufain a dysgu am y planhigion a'r technegau a ddefnyddiwyd i drin milwyr Rhufeinig dros 2,000 o flynyddoedd yn ôl.
  • Bydd cyfle i sgwrsio â'r meddyg Rhufeinig i ddisgrifio'ch symptomau a darganfod pa driniaeth mae’n ei hawgrymu. Bydd ymwelwyr yn dewis ar hap o restr o salwch a damweiniau.
  • Bydd cardiau gwybodaeth i helpu dysgwyr gyda chwestiynau a geirfa. Ar ôl ymweld bydd cyfle i edrych o amgylch ‘fferyllfa’r ardd’ i ddysgu sut fyddai planhigion yn cael eu defnyddio fel meddyginiaeth. Rydyn ni hefyd yn lansio llwybrau hunan dywys newydd i ddysgwyr o bob safon o amygylch yr Amgueddfa.

Ariennir gan Gyngor Dinas Casnewydd dan nawdd Grant y Gymraeg yn y Gymuned.

Mae'r digwyddiad yma yn rhan o Raglen Haf o Hwyl. 

Cymerwch olwg ar yr holl ddigwyddiadau / gweithgareddau Haf o Hwyl:

Digwyddiadau