Digwyddiadau

Digwyddiad: Haf o Hwyl 2022 - Amgueddfa Llen Rhufeinig Cymru

Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru
Wedi'i Orffen
1–29 Awst 2022
Pris Am Ddim
Addasrwydd Teuluoedd
Dyma logo gyda'r geiriau Haf o Hwyl, Summer of fun wedi eu hysgrifennu mewn glas ar gefndir hufen, uwchben y tecst mae amlinelliad o dri calon, y cyntaf yn binc gyda'r ail yn goch ar trydydd yn felyn
Dyma logo Ffederasiwn Amgueddfeudd ac Orielau Celf Cymru, mae'r testun yn goch ar gefndir gwyn. Mae yma hefyd amlinelliad adeilad treftadol ar yr ochr chwith

Ffederasiwn Amgueddfeudd ac Orielau Celf Cymru

Dyma Logo gyda'r geiriau yn nodi bod y prosiect wedi ei arianu gan Lywodraeth Cymru gyda testun du ar gefndir gwyn

Dewch draw i'r Amgueddfa a chymryd rhan yn y gweithdai a pherfformiadau sydd wedi cael eu trefnu fel rhan o'r Haf o Hwyl. Mae'r ŵyl wedi cael ei drefnu fel rhan o'r prosiect Haf o Hwyl, sydd wedi ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.

 

Bywyd ym Myddin Rhufain

Galwch draw pob dydd Llun a Dydd Sadwrn o'r 1-29ain o Awst, 11yb-1yp & 2-4yp

Bron i 2000 o flynyddoedd yn ôl roedd Caer Isca (Caerllion) yn lleoliad pwysig ar ffin gogledd orllewin Ymerodraeth Rhufain. Beth am alw draw i gyfarfod un o filwyr yr Ail Leng Awgwstaidd? Byddan nhw'n dangos eu lifrau, eu harfau a'u hoffer milwrol ac yn disgrifio bywyd bob dydd milwr Rhufeinig ar gyrion yr Ymerodraeth.

Cliciwch y teitl am mwy o wybodaeth 

 

Rhufeiniaid Gwenwynig

Galwch draw pob dydd Iau o'r 4ydd-25ain Awst , 11yb-1yp & 2-4yp 

Wnaeth y Rhufeiniaid unrhywbeth o werth? Rydyn ni'n aml yn rhestru eu gorchestion, fel y draphont ddŵr, baddondai cyhoeddus, ffyrdd ac addysg, ond doedd Ymerodraeth Rhufain ddim yn fêl i gyd. Roedd rhai o'u gorchestion yn ddrwg iawn i'r amgylchedd, ac i bobl! Galwch draw i ddysgu mwy am y Rhufeiniaid gwenwynig.

Cliciwch y teitl am mwy o wybodaeth 

 

Triniaeth a Meddigyniaieth Rufeinig

Bob dydd Gwener ym mis Awst, 11yb-1yp & 2-4yp 

Addas i ddysgwyr o bob safon. Ymwelwch ag un o feddygon Byddin Rhufain a dysgu am y planhigion a'r technegau a ddefnyddiwyd i drin milwyr Rufeinig dros 2,000 o flynyddoedd yn ôl.

Cliciwch y teitl am mwy o wybodaeth 

 

Sonic Sing-Along

20 Awst 2022, 10.30yb - 11.30yb 

Cyngherddau i blant dan 5 oed a'u rhieni! Ymunwch â Operasonic ar gyfer ein cyfres o gyngherddau haf hwyliog - ar gyfer pobl fach a'u oedolion. Cliciwch yma i archebu: https://www.eventbrite.co.uk/e/music-mix-up-led-by-tayla-leigh-and-josh-lascar-tickets-387479239837 

Cliciwch y teitl am mwy o wybodaeth 

Digwyddiadau