Digwyddiad: Haf o Hwyl 2022 - Amgueddfa Llen Rhufeinig Cymru
Dewch draw i'r Amgueddfa a chymryd rhan yn y gweithdai a pherfformiadau sydd wedi cael eu trefnu fel rhan o'r Haf o Hwyl. Mae'r ŵyl wedi cael ei drefnu fel rhan o'r prosiect Haf o Hwyl, sydd wedi ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.
Bywyd ym Myddin Rhufain
Galwch draw pob dydd Llun a Dydd Sadwrn o'r 1-29ain o Awst, 11yb-1yp & 2-4yp
Bron i 2000 o flynyddoedd yn ôl roedd Caer Isca (Caerllion) yn lleoliad pwysig ar ffin gogledd orllewin Ymerodraeth Rhufain. Beth am alw draw i gyfarfod un o filwyr yr Ail Leng Awgwstaidd? Byddan nhw'n dangos eu lifrau, eu harfau a'u hoffer milwrol ac yn disgrifio bywyd bob dydd milwr Rhufeinig ar gyrion yr Ymerodraeth.
Cliciwch y teitl am mwy o wybodaeth
Rhufeiniaid Gwenwynig
Galwch draw pob dydd Iau o'r 4ydd-25ain Awst , 11yb-1yp & 2-4yp
Wnaeth y Rhufeiniaid unrhywbeth o werth? Rydyn ni'n aml yn rhestru eu gorchestion, fel y draphont ddŵr, baddondai cyhoeddus, ffyrdd ac addysg, ond doedd Ymerodraeth Rhufain ddim yn fêl i gyd. Roedd rhai o'u gorchestion yn ddrwg iawn i'r amgylchedd, ac i bobl! Galwch draw i ddysgu mwy am y Rhufeiniaid gwenwynig.
Cliciwch y teitl am mwy o wybodaeth
Triniaeth a Meddigyniaieth Rufeinig
Bob dydd Gwener ym mis Awst, 11yb-1yp & 2-4yp
Addas i ddysgwyr o bob safon. Ymwelwch ag un o feddygon Byddin Rhufain a dysgu am y planhigion a'r technegau a ddefnyddiwyd i drin milwyr Rufeinig dros 2,000 o flynyddoedd yn ôl.
Cliciwch y teitl am mwy o wybodaeth
Sonic Sing-Along
20 Awst 2022, 10.30yb - 11.30yb
Cyngherddau i blant dan 5 oed a'u rhieni! Ymunwch â Operasonic ar gyfer ein cyfres o gyngherddau haf hwyliog - ar gyfer pobl fach a'u oedolion. Cliciwch yma i archebu: https://www.eventbrite.co.uk/e/music-mix-up-led-by-tayla-leigh-and-josh-lascar-tickets-387479239837
Cliciwch y teitl am mwy o wybodaeth