Digwyddiad:Saturnalia
Ymunwch â ni i ddathlu Saturnalia, gŵyl Rufeinig y gaeaf.
Dewch i gyfarfod Gladiator a Llengfilwr, dysgu sut fyddai'r Rhufeiniaid yn dathlu, a mynd i hwyl yr ŵyl. Rhowch gynnig ar wneud 'Calennig', darganfod mwy am y traddodiad Nadoligaidd hwn ac yna ewch ag ef gyda chi i addurno eich cartref eich hun!
Tra bod chi yma, cymerwch olwg o amgylch Marchnad Crefft a Bwyd Caerllion yn Neuadd y Dref a mwynhewch garolau o gwmpas y goeden Nadolig.
Gwybodaeth
Ymweld
Oriau Agor
Bydd ein horiau agor yn newid dros y gaeaf.
O ddydd Llun 4 Tachwedd tan ddydd Gwener 28 Chwefror 2025, byddwn ni ar agor rhwng 10yb-4yp bob dydd.
Parcio
Gallwch barcio naill ai ar Broadway (ger yr amffitheatr), Stryd yr Amgueddfa (nifer gyfyngedig o lefydd parcio) neu oddi ar y Stryd Fawr ger y Baddonau. Mae cyfleusterau parcio beiciau ar gael yn yr amffitheatr.
Ymweld â ni ar drafnidiaeth gyhoeddus, beic neu ar droed?
Gallwch drefnu'ch taith drwy ddefnyddio wefan Traveline Cymru neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0800 464 0000.
Bwyta, Yfed, Siopa
- Nid oes caffi yn yr Oriel ond ceir nifer o fannau bwyta yng nghanol tref Caerllion.
- Bydd y siop ar agor yn ystod eich ymweliad.
- Mae croeso i chi ddod â phicnic, ond nad oes unman i fwyta'r rhain tu fewn i’r amgueddfa.
Lleoliad
Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd