Digwyddiad: Gŵyl Archaeoleg: Amgueddfa Lleng Rufeinig – Tân
Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru
Wedi'i Orffen
Dewch draw i’n gwersyll i ddarganfod pam roedd tân mor bwysig i’r Rhufeiniaid. Bydd gennym synau ac arogleuon y gwersyll i ddod â’r cyfan yn fyw.
Fe gewch chi ddysgu am grefftau hynafol y gof yn ogystal â bathu darnau arian yn y byd Rhufeinig.
Gallwch wneud bara Rhufeinig a’i goginio dros dân agored neu geisio cynnau tân eich hun gan ddefnyddio dril bwa.
Cewch gwrdd â’n milwyr yn y gwersyll hefyd – beth am fentro gamblo gyda Gaius! – a chael hunlun mewn copi o arfwisg Rufeinig.
Cymerwch olwg ar yr holl ddigwyddiadau ŵyl Archaeoleg..