Digwyddiadau

Digwyddiad: Melltithion a Meddyginiaeth

Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru
30 Hydref–3 Tachwedd 2023, 11am-1pm a 2pm-4pm
Pris Am Ddim
Addasrwydd Pawb

Ymwelwch ag un o feddygon Byddin Rhufain a dysgu am y planhigion a'r technegau a ddefnyddiwyd i drin milwyr Rhufeinig dros 2,000 o flynyddoedd yn ôl.  

Dewis ar hap o restr o salwch a damweiniau i ddarganfod eich triniaeth. 

Cyfle i weld sut oedd y Rhufeiniaid yn credu y gallwch chi felltithio rhywun. 

Rhowch gynnig ar ysgrifennu melltith Rufeinig a'i gadael gyda Nemesis, duwies dial!  

Digwyddiadau