Digwyddiad:Teithiau Dementia-gyfeillgar yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru
Dewch i ddysgu mwy am fywyd yng Nghaerllion oes y Rhufeiniaid.
Mae'r daith yn cynnwys:
- Croeso cynnes mewn gofod pwrpasol.
- Ymweliad ag ail-gread o ystafell Barics Rhufeinig i ddysgu mwy am fywyd llengfilwr.
- Cyfle i weld y gwrthrychau yn yr oriel.
- Diod boeth ac amser am sgwrs mewn gofod pwrpasol.
- Ymweliad â'r ardd Rufeinig i gyffwrdd, arogli a blasu'r perlysiau fyddai'r Rhufeiniaid yn ei ddefnyddio fel moddion.
Gall unrhyw un sydd angen seibiant aros ac ymlacio yn y gofod pwrpasol unrhyw bryd. Mae'r daith i gyd yn yr Amgueddfa, a does dim angen cerdded pellter hir. Mae'r daith yn para tua 2 awr, gyda digon o oedi a lluniaeth.
Mae toiledau hygyrch ar gael yn yr Amgueddfa. Mae'r cyfleoedd hyn yn agored i bobl sy'n byw gyda dementia ac sy'n cefnogi pobl sy'n byw gyda dementia.
Gwybodaeth
Ymweld
Oriau Agor
Ar agor 10am-5pm bob dydd (yn cynnwys Gŵyl y Banc).
Rhaid i blant dan 16 fod yng nghwmni oedolyn bob amser. Am resymau diogelwch, rydym yn cadw’r hawl i archwilio bagiau yn yr amgueddfa
Parcio
Gallwch barcio naill ai ar Broadway (ger yr amffitheatr), Stryd yr Amgueddfa (nifer gyfyngedig o lefydd parcio) neu oddi ar y Stryd Fawr ger y Baddonau. Mae cyfleusterau parcio beiciau ar gael yn yr amffitheatr.
Ymweld â ni ar drafnidiaeth gyhoeddus, beic neu ar droed?
Gallwch drefnu'ch taith drwy ddefnyddio wefan Traveline Cymru neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0800 464 0000.
Bwyta, Yfed, Siopa
- Nid oes caffi yn yr Oriel ond ceir nifer o fannau bwyta yng nghanol tref Caerllion.
- Bydd y siop ar agor yn ystod eich ymweliad.
- Mae croeso i chi ddod â phicnic, ond nad oes unman i fwyta'r rhain tu fewn i’r amgueddfa.
Lleoliad
Clywed mwy gan Amgueddfa Cymru
Ry’n ni yn gweithio ar arddangosfeydd a digwyddiadau newydd a chyffrous - beth am fod ymysg y cyntaf i glywed amdanyn nhw?
Cofrestrwch i'n cylchlythyr heddiw
Bydd eich enw a'ch cyfeiriad e-bost yn cael eu cadw er mwyn anfon ein e-lythyr misol atoch chi. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich data a'n defnydd ni ohono, ewch i’n Hysbysiad Preifatrwydd