Digwyddiad: Sadyrnau Ysblennydd!



Sadyrnau Ysblennydd!
Bob dydd Sadwrn gall ymwelwyr fwynhau ymweliad â’n hystafell barics wedi’i hail-greu a Chanolfan Capricorn. Dim angen archebu – gofynnwch wrth gyrraedd.
Sgyrsiau ystafell y barics – 11.30am 12.30pm, 2pm a 3pm
Dewch i ddarganfod sut fywyd oedd gan filwyr yn y fyddin Rufeinig. Cewch ymweld â’n hystafell barics wedi’i hail-greu a chwrdd â hwylusydd fydd yn dangos yr arfau a’r arfwisg oedd y Rhufeiniaid yn eu defnyddio i ymladd y Celtiaid. Cyfle gwych i blant ac oedolion wisgo arfwisg replica.
Canolfan Capricorn– ar agor 11am tan 4pm.
Ardal hamddenol lle gall teuluoedd wisgo dillad Rhufeinig a chwarae gemau.
Sylwer: rhaid i blant fod dan oruchwyliaeth oedolyn bob amser. Mae’r ystafell barics a’r Ganolfan Capricorn ar gau ar ddyddiau Sul, ond bydd ar agor yn ystod rhai gwyliau ysgol.