Ymweld Am Ddim
Covid-19
Ein blaenoriaeth yw eich diogelwch chi, gwirfoddolwyr a’n staff. Rydym yn annog ymwelwyr i wisgo gorchudd wyneb, i ddefnyddio gorsafoedd glanhau dwylo a chadw pellter cymdeithasol.
Oriau Agor
Ar agor 10am-5pm bob dydd (yn cynnwys Gŵyl y Banc).
Rhaid i blant dan 16 fod yng nghwmni oedolyn bob amser. Am resymau diogelwch, rydym yn cadw’r hawl i archwilio bagiau yn yr amgueddfa
Chaer a Baddonau Rufeinig Caerllion
Os hoffech ymwled a’r Chaer a Baddonau Rufeinig, ewch i wefan CADW
Cysylltwch â ni
Ffôn: 0300 111 2 333
E-bost: rhufeinig@amgueddfacymru.ac.uk
Map safle
Grwpiau
Cyngor i gwmniau bysiauParcio
Gallwch barcio naill ai ar Broadway (ger yr amffitheatr), Stryd yr Amgueddfa (nifer gyfyngedig o lefydd parcio) neu oddi ar y Stryd Fawr ger y Baddonau. Mae cyfleusterau parcio beiciau ar gael yn yr amffitheatr.
Bwyta, Yfed, Siopa
- Nid oes caffi yn yr Oriel ond ceir nifer o fannau bwyta yng nghanol tref Caerllion.
- Bydd y siop ar agor yn ystod eich ymweliad.
- Mae croeso i chi ddod â phicnic, ond nad oes unman i fwyta'r rhain tu fewn i’r amgueddfa.
Ydw i’n gallu dod a’r ci?
Yn anffodus, dim ond cŵn tywys gaiff ddod i’r Amgueddfa.
Cefnogwch Ni
Mae Amgueddfa Cymru yn elusen. Bob tro y byddwch chi'n prynu rhywbeth gennym, neu yn cyfrannu rhodd boed fawr neu fach, byddwch yn ein helpu i sicrhau fod Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb ac yma at ddefnydd pawb. Rhowch os gallwch chi.
Darganfod atyniadau eraill yn yr ardal: Dewch i ddarganfod stori Cymru