Ailagor yr Amgueddfa

Cwestiynau Cyffredin

Pam nad yw Ystafell y Barics ar agor?

Ein blaenoriaeth pennaf yw diogelwch staff ac ymwelwyr, ac rydym wedi cynnal asesiadau risg ym mhob Amgueddfa i sicrhau eu bod yn medru ailagor gan gadw at reoliadau cadw pellter cymdeithasol a glanweithdra. Mewn rhai achosion megis Ystafell y Barics, teimlwyd na fyddai modd sicrhau diogelwch staff ac ymwelwyr fyddai yn eu defnyddio. Penderfynwyd felly i beidio cynnwys yr ardaloedd yma yn y rhaglen ailagor.

Pryd fydd Ystafell y Barics ar gael?

Rydym yn dilyn cyngor Llywodraeth Cymru ac yn parhau â’r mesurau yma hyd nes ein cynghorir yn wahanol. Ein blaenoriaeth pennaf yw diogelwch staff ac ymwelwyr.

Oes modd i fi ymweld a Chaer a Baddonau Rufeinig Caerllion ar yr un pryd a’r Amgueddfa?

Os hoffech ymwled a’r Chaer a Baddonau Rufeinig, ewch i wefan CADW 

Pam mae’n rhaid archebu ymlaen llaw?

O ganlyniad i fesurau cadw pellter cymdeithasol, rhaid cyfyngu nifer yr ymwelwyr ar y safle ar yr un pryd. I reoli hyn ac osgoi siomi ymwelwyr rydym wedi cyflwyno sytem archebu ar-lein drwy Eventbrite. Os nad ydych chi am archebu ar-lein gallwch wneud hynny dros y ffôn. Bydd mynediad i bob amgueddfa yn parhau am ddim.

Yw’r toiledau a chyfleusterau newid babi ar agor?

Mae ein toiledau a’r cyfleusterau newid babi yn parhau ar agor. Rydym wedi rhaglennu trefn lanhau estynedig ar gyfer y gofodau yma, a byddwn yn cyfyngu’r niferoedd all defnyddio’r cyfleusterau ar yr un pryd.

Alla i ymweld â siop yr Amgueddfa?

Ie. Mae siop ar agor

Beth ydych chi’n ei wneud i leihau llediad COVID-19?

Mae pob amgueddfa wedi cynnal asesiad risg gan ystyried y mesurau cadw pellter cymdeithasol sy’n parhau i leihau llediad COVID-19. Mae hyn yn cynnwys cyfyngu nifer yr ymwelwyr ar y safle ar yr un pryd, defnyddio cyfarpar diogelu personol (PPE), mesurau glanweithdra ychwanegol a chynyddu sawl gwaith y caiff toiledau eu glanhau bob dydd. Rydym wedi gosod rheolau cadw pellter cymdeithasol newydd yn ein hamgueddfeydd ac yn gweithio i osod arwyddion clir i atgyfnerthu’r rheoliadau glanweithdra a chadw pellter.

Pam allai ddim galw mewn i’r Amgueddfa fel o’r blaen?

O ganlyniad i fesurau diogelwch cadw pellter cymdeithasol, rhaid cyfyngu nifer yr ymwelwyr ar y safle ar yr un pryd. I reoli hyn ac osgoi siomi ymwelwyr rydym wedi cyflwyno sytem archebu ar-lein. Dyma’r ffordd fwyaf diogel o reoli niferoedd ymwelwyr.

Pam ydych chi'n gofyn i mi wisgo gorchudd wyneb?

Yn ôl canllawiau Llywodraeth Cymru, rhaid i bawb wisgo gorchudd wyneb yn ein Hamgueddfeydd a dilyn ein canllawiau diogelwch tra eich bod yn yr amgueddfa, hyd yn oed os ydych chi wedi cael y ddau frechlyn Covid-19. Rydym yn cadw'r hawl i wrthod mynediad i unrhyw un sydd ddim yn gwisgo gorchudd wyneb heb fod ganddynt reswm da, er enghraifft am resymau iechyd a lles, ac unrhyw un nad ydynt yn dilyn ein canllawiau diogelwch eraill.

Pryd alla i drefnu cyfarfod neu achlysur?

Ein blaenoriaeth pennaf yw diogelwch staff ac ymwelwyr, ac rydym wedi cynnal asesiadau risg ym mhob Amgueddfa i sicrhau eu bod yn medru ailagor gan gadw at reoliadau cadw pellter cymdeithasol a glanweithdra. Canllaw y llywodraeth ar hyn o bryd yw i beidio cynnal digwyddiadau mawr fel priodasau a chynadleddau, ond mae hyn yn cael ei adolygu’n gyson. Byddwn yn cyhoeddi’r wybodaeth diweddaraf ar ein gwefan os yw’r cyngor yn newid new ebostio llogi@amgueddfacymru.ac.uk.

Pryd fyddwch chi’n ailagor yn llawn?

Rydym yn dilyn cyngor Llywodraeth Cymru ac yn parhau â’r mesurau yma hyd nes ein cynghorir yn wahanol, er y gallai hyn barhau am fisoedd.

Pryd fyddwch chi’n cynnal digwyddiadau eto?

Rydyn ni wedi paratoi rhaglen o ddigwyddiadau ar-lein dros y misoedd nesaf. Byddwn yn canolbwyntio ar ddigwyddiadau ar-lein tan ein bod yn hyderus y gallwn gynnal digwyddiadau go iawn yn ddiogel, gan gadw at reoliadau cadw pellter cymdeithasol a glanweithdra.

Y camau i’ch cadw chi’n ddiogel:

Y camau i’ch cadw chi’n ddiogel:

  • Mae ein staff blaen tŷ wedi derbyn hyfforddiant iechyd a diogelwch COVID-19.
  • Mae canllawiau diogelwch ymwelwyr ar y safle – dilynwch y canllawiau
  • Cadwch at reolau cadw pellter cymdeithasol – hyd yn oed os ydych chi wedi cael y ddau frechlyn Covid-19.
  • Mae gorsafoedd glanhau dwylo ar gael i staff ac ymwelwyr
  • Trefn lanhau estynedig
  • Rheoli niferoedd ymwelwyr yn unol â chanllawiau iechyd a diogelwch cyhoeddus
  • Bydd rhai orielau ac ardaloedd ar gau lle na allwn gadw at reolau cadw pellter cymdeithasol
  • System un ffordd. Cadwch lygad am arwyddion newydd ar y safle a’i dilyn.
  • Yn ôl canllawiau Llywodraeth Cymru, rhaid i bawb wisgo gorchudd wyneb mewn gofodau dan do yn ein Hamgueddfeydd. Rydym yn cadw'r hawl i wrthod mynediad i unrhyw un sydd ddim yn gwisgo gorchudd wyneb heb fod ganddynt reswm da, er enghraifft am resymau iechyd a lles.

I helpu i gadw pawb yn ddiogel, dilynwch reolau cadw pellter cymdeithasol y llywodraeth wrth ymweld. Os ydych chi’n dangos symptomau coronafeirws, neu wedi bod mewn cysylltiad â rhywun â’r feirws yn yr 14 diwrnod diwethaf, rydym yn gofyn i chi beidio ymweld ac efallai y byddwch yn cael eich troi i ffwrdd er diogelwch staff ac ymwelwyr eraill. Beth am fwynhau yr amgueddfa drwy bori’r casgliadau ar-lein tan eich bod chi’n teimlo’n well?