Teuluoedd

Mwynhewch yn yr ardal Hwyl i’r Teulu ddyddiau Sadwrn yng Nghanolfan Capricorn ger yr Oriel.

Gall ymwelwyr ddangos eu sgiliau crefft gyda’r cert celf a’n blwch gwisg ffansi. Ymlaciwch gyda detholiad o lyfrau neu chwaraewch ein gemau bwrdd Rhufeinig gyda theulu a ffrindiau.

Mae’r gweithgareddau yn addas i blant o bob oedran a gall teuluoedd eu mwynhau gyda’i gilydd. Cynhelir amrywiaeth eang o ddigwyddiadau dros y gwyliau a hanner tymor yn y rhan hon o’r Amgueddfa hefyd. Mae taflenni gweithgareddau a theithiau ar gael o oriel yr Amgueddfa.

Mae’r Amgueddfa’n boblogaidd gan ymwelwyr o bob oedran ac yn dangos dysgu gydol oes ar ei orau. Profwch fywyd milwr Rhufeinig, trafodwch gopïau o arteffactau a gwisgo arfwisg. Mae ystafell y barics fel arfer ar gael wedi 3pm yn ystod tymor yr ysgol a rhwng 11am a 4pm yn ystod y penwythnosau a’r gwyliau.

Gallwch chi brynu detholiad o lyfrau Rhufeinig, rhoddion thematig a theganau arian poced yn siop yr Amgueddfa.

Gall yr Amgueddfa cynnal Partïon Plant.

Mae cyfleusterau newid babi ar gael.