Addysg Gymunedol

Gweithdy cerfio pren
Carfio calon mewn pren
Dynes yn dal cwdyn lledr
Plant yn garddio

Mae sawl ffordd o ddysgu fel grŵp yn Sain Ffagan. Crwydro'r amgueddfa awyr-agored, dysgu sgil newydd, neu archwilio straeon y gwrthrychau gwych yn yr orielau – mae rhywbeth i bawb yma!

Edrychwch ar y dewisiadau isod a chysylltwch â'r tîm archebu i drefnu eich ymweliad Addysg Gymunedol:

Sylwer: codir tâl am rai gweithgareddau yn dibynnu ar y grŵp. Nid ydym yn darparu cinio a lluniaeth. Mae pob gweithdy a thaith yn ddibynnol ar faint o le sydd ar gael. Rhaid archebu o leiaf 2 wythnos ymlaen llaw.


Dewis 1

Dewis 2

Dewis 3

Gweithdy/taith unigol
(bore neu brynhawn, yn dibynnu beth sydd ar gael)

Hanner diwrnod
(bore neu brynhawn, yn dibynnu beth sydd ar gael)

Diwrnod llawn (10.30am i 3pm)

Gweithdy crefft 1 awr

NEU

Taith 30 munud o gwmpas safle/oriel

Gweithdy crefft 1 awr

Egwyl

Taith 30 munud o gwmpas safle/oriel

1 awr o amser rhydd/gweithgareddau hunan-dywys
(e.e. taith hanes, teithiau lles, adnoddau dysgwyr Llwybrau Llafar, adnoddau ESOL).

Taith 30 munud o gwmpas safle/oriel

1 awr i ginio

Prynhawn crefftau (gweithdy hyd at 2 awr)


Mae pob grŵp sydd wedi archebu ymlaen llaw yn cael y canlynol:

  • Mynediad am ddim
  • Gostyngiad o 10% yng nghaffi a bwyty'r Amgueddfa (rhaid gwario o leiaf £5 y pen)
  • Gostyngiad o 10% yn siop yr Amgueddfa (rhaid gwario o leiaf £5 y pen)

Gallai gweithdai a sesiynau crefft gynnwys (heb fod yn gyfyngedig i):

  • Tecstilau
  • Metelwaith
  • Lledrwaith
  • Gweithdai celf

Ymweliadau oriel:

  • Oriel Byw a bod
  • Oriel Cymru...
  • Oriel Gweithdy

Teithiau/arddangosiadau:

  • Teithiau tywys hanesyddol e.e. Taith y Tuduriaid
  • Y Castell a'r Gerddi
  • Arddangosiad/sgwrs gyda chrefftwr (Gof, Clocsiwr, Melinydd, Gwehydd)
  • Teithiau tymhorol e.e. teithiau natur/crwydro'r cloddiau, wyna, trochi rhwydi

Adnoddau hunan-dywys:

Ewch i'n tudalennau ymgysylltu cymunedol am fwy o wybodaeth ar ein cynigion i grwpiau cymunedol ac elusennau.