Sut i Archebu

Archebu Lle

Mae ein hamgueddfeydd ar agor. Gallwch drefnu ymweliad neu gymryd rhan mewn gweithdy rhithwir.
Gweithdai Rhithwir

Rhaid i ysgolion a grwpiau archebu dau wythnos ymlaen llaw. Ffoniwch (029) 2057 3424 neu e-bostio addysg.sainffagan@amgueddfacymru.ac.uk i gadw lle. Byddwn yn anfon cadarnhad ysgrifenedig o’ch archeb wedyn. Cofiwch ddarllen hwn yn ofalus.Bydd angen I ysgolion archebu lle drwy’r broses arferol ac nid drwy Eventbrite.

Gall un grŵp ysgol ymweld bob dydd, uchafswm o 2 ddosbarth o un ysgol.

Bydd aelod o'r tîm addysg yn cwrdd â'r grŵp yn y brif fynedfa wrth gyrraedd.

Ymweliadau hunan-dywys yn unig. Bydd angen i'r grŵp rannu’n grwpiau llai, tua 10 o blant gydag un oedolyn fesul grŵp a chadw at ganllawiau cadw pellter cymdeithasol.

Rhaid i bob plentyn dros 11 oed, a phob oedolyn, wisgo gorchudd wyneb yn ein gofodau dan do.

Gofynnwn i grwpiau sy'n ymweld â'r safle ddilyn y systemau sydd wedi eu gosod, a chyfarwyddiadau staff.

Bydd amser yn yr ystafell ginio yn cael ei bennu yn ystod yr ymweliad, a gellir gadael eiddo personol yn y gofod.

Cadwch at yr amser a bennwyd, neu gallwch ddefnyddio un o'r gofodau tu allan ar unrhyw adeg i gael cinio.

Rhaid archebu tocynnau drwy dîm gweinyddol adran Addysg Sain Ffagan. Peidiwch archebu tocynnau i ysgolion drwy Eventbrite.

Bydd y profiad yn Sain Ffagan yn wahanol i'r arfer; ni allwn warantu o flaen llaw y bydd gofodau neu adeiladau ar agor yn ystod eich ymweliad. Pan fyddwch yn cyrraedd yr Amgueddfa bydd yr adran addysg yn gallu rhoi cyngor ar ba adeiladau ac orielau sydd ar gael ar y diwrnod.

Prisau

Codir tâl am sesiynau sy'n cyd-fynd â'r cwricwlwm, a sydd dan arweiniad staff yr amgueddfa. Mae pedwar pris gwahanol (heb gynnwys TAW):

  • Sesiwn hyd at awr o hyd ar gyfer hyd at 15 disgybl – £40
  • Sesiwn hyd at awr o hyd ar gyfer hyd at 35 disgybl – £60
  • Sesiwn hyd at hanner diwrnod ar gyfer hyd at 35 disgybl – £100

Mae grwpiau Anghenion Addysgol Arbennig yn gymwys ar gyfer sesiynau am ddim.

Anfonir anfoneb i’ch ysgol ar ôl diwrnod yr ymweliad.  Nid yw’r prisiau yn cynnwys TAW ond gall y rhan fwyaf o ysgolion ei hawlio’n ôl gan eu Hawdurdod Lleol.

Canslo

Os caiff ymweliad ei ganslo wedi 10am ar y diwrnod blaenorol, neu os yw grŵp yn hwyr yn cyrraedd ac yn colli eu sesiwn, bydd yn rhaid talu’r pris llawn. Gellir codi tâl trafod o £25 am ganslo neu newid archeb.​ Os yw eich amgylchiadau’n newid, cysylltwch â’r tîm Addysg cyn gynted â phosibl er mwyn i ni roi eich lle i grŵp arall. Ffôn (029) 2057 3424. Gadewch neges ar y peiriant ateb os yw’r llinell yn brysur.

 

Cofiwch fod angen yr wybodaeth ganlynol wrth archebu’ch lle

  • Enw’ch ysgol / sefydliad
  • Cyfeiriad
  • Cod post
  • Rhif ffôn
  • Cyfeiriad e-bost
  • Enw’r athro / arweinydd y grŵp
  • Nifer y myfyrwyr
  • Ystod oedran
  • Oes gan unrhyw ddisgyblion anghenion ychwanegol y dylem wybod amdanynt?
  • Nifer y staff
  • Pa adeiladau hoffech chi ymweld â nhw? Mae angen archebu
  • Pa weithgareddau dan arweiniad yr amgueddfa yr hoffech chi eu harchebu?
  • Ydych chi eisiau gweld arddangosfa arbennig?

Rydym ar agor saith diwrnod yr wythnos a’r rhan fwyaf o wyliau banc, rhwng 10am-5pm. Cofiwch fod y swyddfa addysg ar gau ar benwythnosau a gwyliau banc.

Oriau agor

Rydym ar agor saith diwrnod yr wythnos a’r rhan fwyaf o wyliau banc, rhwng 10am-5pm. Cofiwch fod y swyddfa addysg ar gau ar benwythnosau a gwyliau banc.

Iechyd a diogelwch

Mae gwybodaeth iechyd a diogelwch i’ch helpu i gwblhau’ch asesiad risg ar gael yma [PDF].

Rhaid i rywun oruchwylio grwpiau o blant 16 oed ac iau bob amser.

Cymarebau oedolyn/plentyn:

  • O dan 7 oed – 1 oedolyn ar gyfer bob 5 o blant
  • Cynradd – 1 arweinydd ar gyfer bob 10 o blant
  • Uwchradd – 1 arweinydd ar gyfer bob 15 o blant

Ymweld

Mae lle parcio i fysiau ym maes parcio yr Amgueddfa, cewch eich cyferio yno. Cyfarwyddiadau a chysylltiadau cludiant ar gael yma.

Mynediad i’r Anabl

Mae modd defnyddio cadair olwyn i ymweld â’r rhan fwyaf o’r safle, ond gall fod yn anodd mynd i mewn i rai adeiladau hanesyddol. Mae rhannau o’r tir o gwmpas y Castell yn serth ac felly’n anodd ei gyrraedd o bosib. Mae nifer o gadeiriau olwyn ar gael i’w benthyca o’r brif fynedfa. Yn ystod yr haf, mae trên bach yn mynd yn rheolaidd o un pen o’r safle i’r llall.

Mae canllawiau mynediad ar gael yma.

Dillad addas

Bydd y rhan fwyaf o’ch ymweliad yn yr awyr agored, felly dewch â dillad addas ar gyfer pob math o dywydd. Mae’r llwybrau yn gallu bod yn fwdlyd yn ystod y gaeaf, felly gwisgwch esgidiau addas.

Ar ôl cyrraedd

Bydd staff yn barod i’ch croesawu wrth brif fynedfa’r Amgueddfa. Byddant yn cadarnhau manylion eich ymweliad ac yn ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych. Byddwn angen gwybod faint yn union o ymwelwyr sydd yn eich grŵp.

Byddwch yn hynod ofalus wrth groesi’r maes parcio. Dylai grwpiau aros yn y bws tan fod yr arweinydd wedi cofrestru – os yn bosibl.

Bwyd a diod

O dan dô. O dan do. Mae lle bwyta dan do ar gael. Rydym yn neilltuo 20 munud ar y tro i grwpiau o hyd at 60. Mae’r amseroedd bwyta hyn yn cael eu neilltuo wrth i grwpiau gyrraedd yr Amgueddfa, a does dim modd eu harchebu ymlaen llaw.

Y tu-allan. Mae llefydd picnic ar gael yn yr awyr agored. Holwch un o’n Cynorthwywyr am gyfarwyddiadau.

Bwyty a chaffis. Ffoniwch y bwyty ymlaen llaw i archebu pecynnau bwyd neu am fanylion y fwydlen ysgolion. Ffôn: (029) 2056 5157.

Yr Odyn
11.00am – 4.00pm

Ystafell De Gwalia
11.00am – 4.00pm [Ar agor ar penwythnosau'n unig Tachwedd – Chwefror]

Bwtri'r Castell
11.00am – 4.00pm [Ar agor Mawrth – Hydref yn unig]

Tai bach

Mae’r prif floc tai bach wrth y brif fynedfa. Mae tai bach eraill ger Castell Sain Ffagan, Sefydliad y Gweithwyr Oakdale a lawnt Gwalia. Mae cyfleusterau i bobl anabl ger y brif fynedfa; Sefydliad y Gweithwyr Oakdale ac wrth fythynnod Rhyd-y-car.

Uned Newid Lleoedd

Mae ‘Uned Newid Lleoedd’ ar gael yn yr Amgueddfa, sy’n cynnwys gwely a theclyn codi electronig yn ogystal â thŷ bach. Mae angen allwedd 'radar' i ddefnyddio’r uned – gofynnwch amdano yn y brif fynedfa.

Map

Mae sawl map ar hysbysfyrddau ar hyd a lled y safle, neu gallwch brynu map am 30c o’r brif fynedfa.

Lle i gadw cotiau a bagiau

Mae cawellau heb glo yn y man cinio o dan dô. Gallwch eu defnyddio i gadw co:au a bagiau yno ar eich cyfrifoldeb eich hun.

Siop yr Amgueddfa

Mae’r siop yn gwerthu pob math o nwyddau amrywiol fel teganau bach, llyfrau a chardiau post. Helpwch i oruchwylio’ch grŵp drwy sicrhau nad oes gormod o blant yn y siop ar y tro. I arbed amser yn ystod eich ymweliad, gallwch ffonio’r siop ymlaen llaw ar (029) 2057 3412 fel y gallwn drefnu bagiau anrhegion bach am bris penodol ar gyfer eich grŵp.

Canllawiau’r Amgueddfa

Cofiwch gadw llygaid ar blant a phobl ifanc dan 16 oed drwy’r adeg.

Peidiwch â chyffwrdd â’r anifeiliaid da byw ar y safle, na’u bwydo.

Mae croeso i gŵn y tu allan i’r adeiladau, ond cadwch nhw ar dennyn.

Dim ysmygu yn unrhyw un o’n hadeiladau.

Ymweliadau rhagflas

Mae’r rhain ar gael i athrawon neu arweinwyr grwpiau sydd am gynefino â’r Amgueddfa. Ffoniwch i drefnu ymlaen llaw os ydych chi’n dymuno siarad ag aelod o’r tîm Addysg ar ddiwrnod eich ymweliad rhagflas.

Crefftwyr

Mae crefftwyr fel y gof, y melinydd, y gwehyddwr a’r clocsiwr yn arddangos eu gwaith i’r cyhoedd ar ddiwrnodau penodol. Os oes gan eich grŵp ddiddordeb mewn crefft arbennig, ffoniwch y tîm addysg i wirio eu bod ar gael ar ddiwrnod eich ymweliad.

Cymorth cyntaf

Os bydd angen Cymorth Cyntaf, cysylltwch ag un o gynorthwywyr neu hwyluswyr yr Amgueddfa, a fydd yn galw am rywun sydd wedi cael hyfforddiant cymorth cyntaf.

Plant ar goll

Dywedwch wrth blant am roi gwybod i aelod o staff yr Amgueddfa os ydyn nhw ar goll. Yna, bydd cynorthwyydd yr Amgueddfa yn cael gafael ar un o arweinwyr y grŵp.

Unrhyw argyfwng arall

Os bydd unrhyw argyfwng arall, cysylltwch ag un o Gynorthwywyr yr Amgueddfa.

Polisi amddiffyn plant

Mae polisi amddiffyn plant yr amgueddfa ar gael yma.