Sut i Archebu - Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

Plant yn archwilio Sain Ffagan yn sefyll y tu allan i dŷ traddodiadol wedi'i baentio'n goch.

Archebu Lle

Rhaid i ysgolion a grwpiau archebu pob ymweliad o leiaf pythefnos ymlaen llaw.
Ffoniwch (029) 2057 3424

E-bost: addysg.sainffagan@amgueddfacymru.ac.uk
Mae ein horiau archebu 9am tan 4.30pm rhwng dydd Llun a dydd Gwener.
 

Neilltuwch o leiaf 3 awr ar gyfer eich ymweliad i gael gweld popeth sydd gan yr Amgueddfa i’w gynnig. Mae grwpiau sydd wedi archebu ymlaen llaw yn cael y fantais o fynediad am ddim a lle parcio bws neu fws mini am ddim. Rydyn ni ar agor saith diwrnod yr wythnos a’r rhan fwyaf o wyliau cyhoeddus, rhwng 10am a 5pm. Sylwer: mae’r swyddfa archebu addysg ar gau ar benwythnosau a gwyliau banc. 

  • Mae’r Amgueddfa ond yn codi tâl am weithgareddau dan arweiniad yr Amgueddfa. Gallwch chi weld beth sydd ymlaen ar ein gwefan: Archwilio gweithgareddau yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru | Amgueddfa Cymru. Bydd angen archebu lle ymlaen llaw i weld rhai adeiladau yn ystod eich ymweliad. 
  • Mae’n rhaid gwneud archebion ysgol drwy dîm gweinyddol adran Addysg Sain Ffagan. Wrth archebu fel grŵp, rhowch wybod am unrhyw anghenion mynediad neu ddysgu ychwanegol. 
  • Defnyddiwch Stori Weledol Sain Ffagan (amgueddfa.cymru) ⁠i gynllunio eich ymweliad. 
  • Gallwch chi hefyd Archwilio Sain Ffagan mewn 360° i helpu i baratoi’r disgyblion am eu hymweliad. 
  • Gofynnwn i chi beidio archebu tocynnau drwy wasanaethau allanol. 
  • Bydd aelod o’n Tîm Addysg yn croesawu eich grŵp yn y brif fynedfa wrth i chi gyrraedd.  Wrth gofrestru eich grŵp, gwnawn ni gadarnhau manylion eich ymweliad ac ateb unrhyw gwestiynau fydd gennych chi. Byddwn hefyd yn gofyn i chi fewngofnodi a rhoi cyfanswm yr unigolion yn eich grŵp. 
  • Bydd slotiau amser ar gyfer defnyddio’r ystafell fwyta, ac unrhyw ofynion mynediad ychwanegol yn cael eu cadarnhau wrth archebu. Gweler ein tudalen Canllawiau Mynediad i Grwpiau - Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru | Amgueddfa Cymru
  • Byddwn yn anfon cadarnhad ysgrifenedig atoch chi unwaith y bydd eich archeb wedi’i chadarnhau. Edrychwch arno’n ofalus a rhowch wybod yn syth os oes angen newid unrhyw beth. 

Pris sesiynau wedi’u hwyluso 

Mae’r Amgueddfa ond yn codi tâl am weithgareddau dan arweiniad yr Amgueddfa. Gallwch chi weld beth sydd ymlaen ar ein gwefan: Archwilio gweithgareddau yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru | Amgueddfa Cymru 
Codir tâl am sesiynau dan arweiniad staff yr Amgueddfa sy’n cyd-fynd â’r cwricwlwm.
Mae tri phris gwahanol (heb gynnwys TAW):
 

  • sesiwn hyd at awr ar gyfer 15 disgybl – £40 
  • sesiwn hyd at awr ar gyfer 30 disgybl – £60 
  • sesiwn hyd at hanner diwrnod ar gyfer 35 disgybl – £100 

Mae grwpiau Anghenion Addysgol Arbennig yn gymwys i gael sesiynau am ddim. 

Bydd ein Hadran Gyllid yn anfon anfoneb i’ch ysgol ar ôl diwrnod yr ymweliad. ⁠ Nid yw’r pris yn cynnwys TAW ond mae’r rhan fwyaf o ysgolion yn gallu ei hawlio’n ôl gan yr Awdurdod Lleol. 

Canslo 

Os byddwch yn canslo ar ôl 10am ar y diwrnod, neu fod y grŵp yn hwyr ar y diwrnod ac yn methu’r sesiwn, rhaid i chi dalu pris llawn y sesiwn. Yn ogystal, mae’n bosibl y bydd ffi weinyddol o £25 os byddwch yn addasu neu ganslo’r archeb. 

Rydyn ni’n deall y gall amgylchiadau newid, a gofynnwn i chi roi gwybod i’r Tîm Addysg cyn gynted â phosibl os ydych chi angen canslo neu addasu eich archeb. Bydd hyn yn ein galluogi i roi eich lle i grŵp arall a sicrhau profiad hwylus i bob ymwelydd. 
 

Bydd angen y wybodaeth ganlynol arnoch wrth archebu: 

  • Enw’r ysgol / sefydliad 
  • Cyfeiriad 
  • Cod post 
  • Rhif ffôn 
  • ⁠Cyfeiriad e-bost 
  • Enw’r athro / arweinydd y grŵp 
  • Nifer y disgyblion  
  • Amrediad oed 
  • Oes gan unrhyw un o’r disgyblion anghenion ychwanegol y dylem wybod amdanynt? 
  • Nifer y staff 
  • Dyddiad delfrydol (rhestrwch sawl un os gwelwch yn dda) 
  • Pa adeiladau hoffech chi ymweld â nhw? Sylwer: ni ellir ymweld â rhai adeiladau heb archebu ymlaen llaw.  
  • Pa weithgareddau gan yr Amgueddfa hoffech chi archebu ac ym mha iaith (Cymraeg neu Saesneg)? 
  • Amser cyrraedd a gadael 
  • Hoffech chi ddefnyddio’r ystafell frechdanau? Mae slotiau hanner awr ar gael. Rhowch wybod os ydych angen yr ystafell frechdanau i chi’ch hunain ar gyfer unrhyw anghenion meddygol neu fynediad. 

Oriau agor 

Rydyn ni ar agor saith diwrnod yr wythnos a’r rhan fwyaf o wyliau cyhoeddus, rhwng 10am a 5pm. Sylwer: mae’r swyddfa archebu addysg ar gau ar benwythnosau a gwyliau banc. 

Iechyd a diogelwch 

Dilynwch y ddolen i weld gwybodaeth iechyd a diogelwch i’ch helpu i gwblhau asesiad risg [PDF]

Rhaid i bob plentyn/disgybl 16 oed neu iau gael eu goruchwylio bob amser.  

Cymhareb oedolyn/plant: 

  • Dosbarth meithrin i flwyddyn 2 (3-7 oed) – 1 oedolyn cyfrifol: 6 disgybl 
  • Blynyddoedd 3 i 6 (7-11 oed) – 1 oedolyn cyfrifol: 10 disgybl 
  • Blwyddyn 7 ymlaen (11+ oed) – 1 oedolyn cyfrifol: 15 disgybl 

Ymweld 

Mae lle parcio bysiau ym maes parcio’r Amgueddfa. Byddwch chi’n cael eich arwain atyn nhw wrth gyrraedd. Dilynwch y ddolen i weld cyfarwyddiadau a chysylltiadau trafnidiaeth. 

Mynediad i’r anabl 

Mae mynediad cadair olwyn i’r rhan fwyaf o’r safle, ond mynediad cyfyngedig sydd i rai adeiladau hanesyddol. Mae’r tir ar ochr y Castell yn yr Amgueddfa yn serth mewn mannau a gall fod yn drafferthus.  Mae’n bosibl benthyg cadair olwyn yn y brif fynedfa. Dros yr haf, rydyn ni hefyd yn darparu gwasanaeth trên bach sy’n rhedeg yn rheolaidd, yn cludo ymwelwyr o un ochr y safle i’r llall. Dilynwch y ddolen i weld y Canllawiau Mynediad

Dillad addas 

Bydd ymwelwyr yn treulio’r rhan fwyaf o’u hamser yn yr awyr agored yn yr Amgueddfa, felly dewch â dillad sy’n addas ar gyfer pob math o dywydd. Gall y llwybrau fod yn fwdlyd yn y gaeaf – dewch ag esgidiau addas. 

Ar ôl cyrraedd 

Bydd staff yr Amgueddfa yn nerbynfa’r Ganolfan Ddysgu i’ch croesawu chi. Fe wnawn nhw gadarnhau manylion eich ymweliad ac ateb unrhyw gwestiynau fydd gennych chi. Mae’n bwysig ein bod yn gwybod yn union faint o ymwelwyr sy’n eich grŵp chi. 
 

Dylid cymryd pob gofal wrth groesi’r maes parcio. ⁠Dylai’r grwpiau aros ar y bws nes bod arweinydd y grŵp wedi mewngofnodi – os yn bosibl. 

Toiledau 

Mae gennyn ni amryw o gyfleusterau toiledau ledled yr Amgueddfa: 
  • Mae’r prif floc toiledau ger y brif fynedfa. 
  • ⁠Mae bloc toiledau ychwanegol i fyny’r grisiau yng Nghanolfan Ddysgu Weston. 
  • Gallwch ddod o hyd i doiledau eraill ger Castell Sain Ffagan, Sefydliad y Gweithwyr Oakdale, a’r Gweithdy. ⁠ 
  • Ar gyfer ein hymwelwyr ag anableddau, mae cyfleusterau toiledau hygyrch yn y Brif Fynedfa, Sefydliad y Gweithwyr Oakdale, Gweithdy a ger tai teras Rhyd-y-car. 

Bwyd a diod 

Mae llawer o opsiynau bwyd a diod ar y safle. Mae’r lluniaeth amrywiol sydd ar gael mewn gwahanol sefydliadau yn cynnwys bwyd poeth ac oer, cacennau, detholiad o ddiodydd a mwy. Os hoffech wneud unrhyw drefniadau bwyd a diod ar gyfer eich ymweliad, cysylltwch â ni.  

Uned Lleoedd Newid 

Mae ‘Uned Lleoedd Newid’ ar gael yn yr Amgueddfa sy’n cynnwys gwely electronig ac offer codi yn ogystal â thoiled. Mae’n bosibl cael mynediad i’r uned gan ddefnyddio goriad ‘radar’. Gofynnwch amdano wrth y dderbynfa yn y Brif Fynedfa. 

Map 

Mae mapiau allwch chi eu hargraffu yn cael eu hanfon gyda’r e-bost cadarnhau archeb, neu fel arall mae mapiau ar gael i’w prynu ar y safle am 50c. 

Siop yr Amgueddfa 

Bydd croeso cynnes i’ch grŵp yn y siop. Mae’r siop yn gwerthu amrywiaeth o nwyddau, gan gynnwys teganau bach, llyfrau a chardiau post. Fodd bynnag, bydd angen i chi ymweld mewn grwpiau bach yn ystod eich ymweliad. Fel arall, gallwch archebu pecynnau rhodd yn llawn eitemau ‘arian poced’ ymlaen llaw, a thalu ar ddiwrnod eich ymweliad. Am fwy o fanylion ffoniwch staff y siop ar (029) 2057 3412. 

Canllawiau’r Amgueddfa

  •  Rhaid i bob plentyn/disgybl 16 oed neu iau gael ei oruchwylio bob amser.  
  •  Ni ddylai ymwelwyr gyffwrdd neu fwydo’r anifeiliaid sydd ar y safle. 
  •  Mae croeso i gŵn yn yr awyr agored ar y safle, ond rhaid iddyn nhw fod ar dennyn byr. 
  •  Ni chaniateir ysmygu ar y safle. 

Ymweliadau rhagflas 

Mae’n bosibl i athrawon neu arweinwyr grŵp sydd eisiau ymgynefino yn yr Amgueddfa gael ymweliad rhagflas. Ffoniwch i wneud trefniadau ymlaen llaw os hoffech siarad ag aelod o’r Tîm Addysg ar ddiwrnod eich ymweliad rhagflas. 

Crefftwyr 

Mae sawl crefftwr yn yr Amgueddfa, gan gynnwys y gof, clocsiwr, melinydd gwlân, a melinydd ŷd, yn cynnal arddangosiadau a sgyrsiau ar gyfer y cyhoedd a grwpiau addysgol. Os oes diddordeb gan eich grŵp mewn crefft benodol, cysylltwch â’r Tîm Addysg ymlaen llaw i weld beth sydd ar gael. 

Cymorth cyntaf 

Os oes angen cymorth cyntaf arnoch chi, cysylltwch ag aelod o staff yr Amgueddfa fydd yn galw rhywun sydd wedi derbyn hyfforddiant cymorth cyntaf. 

Plant coll 

Dywedwch wrth blant os ydyn nhw’n cael eu gwahanu oddi wrth eu grŵp i roi gwybod i aelod o staff yr Amgueddfa os ydyn nhw ar goll. Os bydd arweinydd grŵp yn sylwi bod rhywun ar goll, dylen nhw ddweud wrth un o’r cynorthwywyr neu staff yr Amgueddfa a fydd yn cymryd y camau priodol.  

Unrhyw argyfwng arall 

Os oes unrhyw argyfwng arall, cysylltwch ag aelod o staff yr Amgueddfa. 

Polisi Diogelu Plant 

Dilynwch y ddolen i weld Polisi Diogelu Plant yr Amgueddfa.