Castell Sain Ffagan

57

58

59

**Dim ond nifer cyfyngedig o ystafelloedd ar y llawr gwaelod sydd ar agor i’r cyhoedd ar hyn o bryd.**

Pa fath o adeilad yw Castell Sain Ffagan?

Mae Castell Sain Ffagan yn adeilad rhestredig Gradd 1. Saif ar adfeilion hen gastell Normanaidd, a dyna pam y mae’n cael ei alw’n gastell hyd heddiw. Adeiladwyd y plasdy presennol tua 1580, ar ffurf siâp ‘E’, a ddaeth yn ffasiwn yn ystod teyrnasiad Elisabeth I. Hwn oedd yr adeilad cymesur cyntaf yn ne Cymru ar y pryd.

Ym 1946, rhoddodd Iarll Plymouth y Castell a deunaw erw o dir i Amgueddfa Genedlaethol Cymru i fod yn safle ar gyfer amgueddfa genedlaethol awyr agored.

Pa mor hen yw Castell Sain Ffagan?

Adeiladwyd y castell cynharaf ar y safle yma gan arglwydd Normanaidd Robert Le Sore yn yr 1100au. Yn ystod yr 1300au, ail-adeiladwyd y castell mewn cerrig.

Dechreuodd cyfreithiwr lleol o'r enw Dr John Gibbon ar y gwaith o godi'r tŷ presennol ym 1580 ond mae'n bosib na fu byth yn byw yma.

Prynwyd y tŷ a'r ystâd ym 1616 gan Edward Lewis, y Fan, Caerffili, ac Edward a'i wraig Blanche a gwblhaodd lawer o ffitiadau mewnol yr adeilad ym 1620. Mae llythrennau blaen eu henwau, EBL, a'r dyddiad, 1620, i'w gweld ar baneli ac ar dalpentanau yn yr adeilad. Dechreuodd gysylltiad teulu’r Plymouth â’r lle ym 1730 pan briododd eu haeres, Elizabeth, ag Other, trydydd Iarll Plymouth a nawfed Barwn Windsor.

Cafodd y tŷ ei rentu i wahanol denantiaid yn y 1700au ac, yn ddiweddarach, bu pobl leol yn ei ddefnyddio dros dro, yn cynnwys yr ysgolfeistr lleol a oedd yn cadw ysgol yn y parlwr.

Pwy fu yn byw yng Nghastell Sain Ffagan?

Mae sawl teulu wedi byw yn y Castell dros y blynyddoedd, ond stori teulu Windsor sy'n cael ei hadrodd yma heddiw. Rhwng 1885 a 1910 bu tad Iarll Plymouth, sef Arglwydd Windsor, ei wraig a'u pedwar o blant yn treulio eu gwyliau haf yma. Roedd yr Arglwydd a'i feibion yn mwynhau chwarae criced i dîm y pentref tra byddai'r Arglwyddes yn ymlacio trwy ddarlunio yn yr ardd Eidalaidd. Byddai angen llawer o staff i redeg y Castell tra roedd y teulu yma - tua 40 i gyd, gan gynnwys cogydd, stiward, bwtler a morwynion y gegin a’r golchdy. Byddai’r rhain yn teithio o dŷ i dŷ gyda’r teulu. Pan ddychwelai’r teulu i’w cartref parhaol – Hewell Grange, yn Swydd Gaerwrangon – dim ond yr howscipar a rhai o’r morwynion byddai’n aros i ofalu am y Castell.

Yng nghyfnod teulu Windsor, gwariwyd miloedd o bunnoedd ar waith adnewyddu, gan gynnwys gosod system golau trydan a weithiai trwy bwmpio dŵr o felin ŷd y pentref!

Pa ystafelloedd sydd fyny grisiau?

Yr Oriel Hir

Nodwedd Elisabethaidd oedd yr oriel hir, a dyma un o’r enghreifftiau cynharaf yn sir Forgannwg. Roedd yr oriel hir yn symbol o statws ac yn fan i arddangos portreadau’r teulu ac ambell ddodrefnyn go bwysig.

Ym mhen pella’r oriel mae drws sy’n arwain i ardal y gweision. Roedd hwn bob amser ar gau.

Ystafell Wely Gwesteion

Roedd llawer o blastai’n neilltuo ystafell wely ar gyfer ymwelwyr pwysig, gan gynnwys y teulu brenhinol. Cawsant eu dodrefnu gyda’r dodrefn gorau ac yn aml, byddai’r ystafell yn dilyn thema neu liw. Mae’r ystafell hon wedi’i haddurno yn steil y ddeunawfed ganrif, a daw’r rhan fwyaf o’r dodrefn o ddechrau’r 1700au.

Y Llyfrgell

Mewn llawer o blasdai, dynion yn bennaf fyddai wedi defnyddio llyfrgelloedd. Yma byddai’r Arglwydd Windsor wedi darllen papurau newydd, ysgrifennu llythyrau neu ymlacio gyda’i lyfrau.

Daw’r dodrefn yn wreiddiol o blasty Coed Coch ger Abergele. Mae’r cwpwrdd llyfrau mahogani yn cynnwys desg, ac mae modd troi’r stepiau cyfatebol yn stôl. Comisiynwyd rhain, ynghyd â’r soffas a chadeiriau breichiau Groegaidd eu harddull, ym 1806-7 gan John Lloyd Wynne o Goed Coch. Aeth ati i gyflogi’r crefftwyr dodrefn o fri, Gillows o Gaerhirfryn, i ddodrefnu ei gartref.

Ystafell wely’r Arglwydd Windsor

Cysgai’r Arglwydd Windsor a’i wraig mewn ystafelloedd ar wahân, fel oedd yn gyffredin iawn ym mhlasdai’r cyfnod.

Pan oedd yn aros yng Nghastell Sain Ffagan, byddai’r Arglwydd Windsor yn treulio’r rhan helaeth o’i amser yn trafod materion yr ystâd gyda’i asiant, Robert Forrest. Roedd hefyd yn brysur gyda’r cynlluniau i adeiladu dociau a rheilffordd Y Barri. Ym 1895, cafodd ei benodi’n Faer Caerdydd ac ym 1902, daeth yn aelod o’r Cabinet fel y Comisiynydd Cyntaf dros Weithfeydd. Golygai hyn gryn dipyn o giniawa ac ymddangosiadau cyhoeddus di-ri. Daeth uchafbwynt ei yrfa ym 1905, pan urddwyd ef gan y Brenin Edward VII yn Iarll 1af Plymouth.

Ystafell Wely’r Fonesig Windsor

Byddai’r Fonesig Alberta wedi ysgrifennu’i dyddiadur yn ei hystafell wely. Roedd ganddi atgofion melys iawn o’r amser a dreuliodd yma yn y Castell yng nghwmni’i gŵr a’i phedwar plentyn:

‘The summer months at St Fagans were looked forward to by us all as a real holiday; we lived out of doors, even dining on the terrace on fine nights.’

Mae’n dra thebyg i’r gwely yn ei hystafell gael ei brynu ar gyfer y tŷ ym 1852, pan gafodd ei ddodrefnu ar gyfer Robert Windsor-Clive a’i briod newydd, y Fonesig Mary. Cafodd ei etifeddu wedyn gan Robert George a’i wraig, y Fonesig Alberta Windsor.

Mae llun o’r gwely ym 1892 yn dangos bwlb golau yng nghanol y nenfwd. Byddai’n haws nag erioed i ddarllen yn y gwely, wedi i’r Castell gael trydan am y tro cyntaf yn y 1890au.

Prefab Map Plot

Ffeithiau Adeilad:

  • Lleoliad gwreiddiol: Sain Ffagan, Morgannwg
  • Dyddiad adeiladu gwreiddiol: 1590
  • Dodrefnwyd: Dechrau'r 20fed ganrif
  • Dyddiad agor i'r cyhoedd: 1946
  • Statws rhestredig: Gradd 1
  • Gwybodaeth ymweld