Y Colomendy

54

Yn ôl yr hynafiaethydd Rice Meyrick, roedd colomendy yng Nghastell Sain Ffagan yn y 1580au ond allwn ni ddim bod yn siwr mai'r un adeilad oedd hwnnw. Slawer dydd, roedd colomennod yn bwysig am eu cig ffres ac roedd eu tom yn cael ei ddefnyddio i wrteithio gerddi. Mae'r colomendy hwn yn addurnol yn ogystal ag yn ymarferol ac mae'r lantern ffenestrog ar frig y to pyramidaidd yn gadael goleuni i mewn. Gellir dringo ysgol haearn o'r llawr daear i lofft y colomennod uwchben ac mae agoriad yn y to i'r adar ddod i mewn.

 
Prefab Map Plot

Ffeithiau Adeilad:

  • Lleoliad gwreiddiol: Castell Sain Ffagan
  • Dyddiad adeiladu gwreiddiol: 18fed ganrif
  • Dyddiad agor i'r cyhoedd: 1946
  • Statws rhestredig: Gradd 2
  • Gwybodaeth ymweld