Odyn Ewenni

27

Erbyn y 18fed ganrif, roedd cynifer â phymtheg o grochendai'n gweithio yn ardal Ewenni. Adeiladwyd yr odyn hon i ddechrau tua 1800, ond wedyn, tua 1900, cafodd ei newid o fod yn odyn frig-agored i edrych fel y mae nawr. Copi yw'r sied grochenwaith gerllaw, wedi'i seilio ar adeilad oedd ar ôl yn y man gwreiddiol. Eitemau defnyddiol ar gyfer cegin a llaethdy'r fferm oedd y prif bethau a gâi eu gwneud yn y crochendai e.e. dysglau llaeth, stenau, dysglau, potiau dan gwely a mathau eraill o offer. Yn ogystal, roeddent yn gwneud pethau bach wedi'u haddurno â slip i'w rhoi'n rhoddion ac ati, fel cadw-mi-geiau a jygiau posau. Erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd y crochendai wedi rhoi'r gorau i wneud offer ar gyfer y tŷ ac ati gan fod nwyddau wedi'u masgynhyrchu ar gael yn rhatach. Roedd digon o alw am eitemau addurnol i gadw rhai o'r crochendai, ond dim ond dau sydd ar ôl erbyn heddiw. Symudwyd yr odyn i Sain Ffagan ym mis Gorffennaf 1980.

 
Ewenny Pottery Map Plot

Ffeithiau Adeilad:

  • Lleoliad gwreiddiol: Ewenni, Morgannwg
  • Dyddiad adeiladu gwreiddiol: tua 1800
  • Datgymalwyd a symudwyd i Sain Ffagan: 1980
  • Dyddiad agor i'r cyhoedd: 1988
  • Gwybodaeth ymweld