Efail Llawr-y-glyn

42

Adeilad carreg syml, unllawr, gydag ardal bedoli, yr efail ei hunan a stabl a ddefnyddid yn wreiddiol ar gyfer ceffylau oedd yn disgwyl eu pedoli. Yn ddiweddarach, cafodd hwn ei addasu'n daflod ar gyfer storio haearn. Rhoddwyd y gorau i ddefnyddio'r efail ym 1963 ac fe'i symudwyd i'r Amgueddfa ym mis Medi 1970.

Tan ganol yr 20fed ganrif, roedd pob cymuned wledig yn dibynnu'n fawr ar efail y gof. Yma, roedd ceffylau'n cael eu pedoli, offer ar gyfer y tŷ'n cael eu gwneud a'u trwsio, cylchoedd metal yn cael eu gosod ar olwynion ceirt, a nifer o dasgau eraill. Yn aml, byddai'r efail yn datblygu'n ganolfan diwydiant gwledig gan wneud erydr a pheiriannau eraill ar gyfer y fferm, offer ar gyfer y tŷ a'r ardd, hoelion ac ati. Yn ogystal, roedd yr efail yn ganolfan gymdeithasol bwysig lle byddai pobl yr ardal yn cyfarfod ac yn sgwrsio.

 
Smithy Map Plot

Ffeithiau Adeilad:

  • Lleoliad gwreiddiol: Llawr-y-glyn, Trefeglwys, Powys (Sir Drefaldwyn)
  • Dyddiad adeiladu gwreiddiol: Diwedd y 18fed ganrif
  • Datgymalwyd a symudwyd i Sain Ffagan: 1970
  • Dyddiad agor i'r cyhoedd: 1972
  • Statws rhestredig: Gradd 2
  • Gwybodaeth ymweld