Eglwys Sant Teilo

35

Credir bod Eglwys Sant Teilo wedi'i chodi tua diwedd y 12fed ganrif neu yn y 13eg ganrif ar safle eglwys Geltaidd gynharach. Dros y canrifoedd wedyn, cafodd yr adeilad ei addasu a'i ehangu.

Corff yr eglwys a'r gangell yw rhannau hynaf yr adeilad presennol. Yn ystod y bedwaredd ganrif ar ddeg, adeiladwyd capeli bychain ar ochr ogleddol ac ochr ddeheuol y gangell a, thua diwedd y 14eg ganrif neu ddechrau'r 15fed, gwnaed yr eglwys yn fwy trwy ychwanegu eil ar ochr ddeheuol y corff. Rhoddwyd dau fwa yn lle'r hen wal ddeheuol, a thrydydd bwa yn agor i'r gangell. Yn olaf, ychwanegwyd portsh i'r drws allanol yn arwain i eil ddeheuol yr eglwys.

Mae coed y to yn nodweddiadol o waith dechrau'r bymthegfed ganrif (trawstiau croes crwm), ond efallai eu bod ychydig yn ddiweddarach na hynny. Cafodd wal orllewinol yr eglwys ei haddasu tua dechrau'r 18fed ganrif (ceir y dyddiad 1736 ar garreg) ac yna, ym 1810, gosodwyd corau caeëdig a phulpud ar dair lefel yno. Mae'n ymddangos bod y rhan fwyaf o'r ffenestri â'u myliynau cerrig wedi'u llenwi bryd hynny a ffenestri newydd pigfain, 'gothig Sioraidd ', wedi'u gosod yn eu lle. Cadwyd un o'r ffenestri gwreiddiol mwliwn carreg â dwy ran iddi (14/15fed ganrif) yn eil y de. Credir mai'r peth hynaf sy'n dal yn yr eglwys yw'r bedyddfaen carreg. Credir bod hwnnw'n dyddio o'r drydedd ganrif ar ddeg os nad cynt.

Mae Eglwys Sant Teilo yn ymddangos fel y byddai tua'r flwyddyn 1530, gyda'r holl elfennau a gysylltir ag eglwys Babyddol o'r Oesoedd Canol diweddar, fel croglen a llofft y grog (rhwng corff yr eglwys a'r gangell), allorau, cerfiadau a lluniau lliwgar ar y waliau i gyd. Cafodd yr adeilad ei gofnodi a'i dynnu i lawr rhwng 1984 a 1985.

St. Teilos Church Map Plot

Ffeithiau Adeilad:

  • Lleoliad gwreiddiol: Llandeilo Tal-y-bont, ger Pontarddulais, Abertawe (Morgannwg)
  • Dyddiad adeiladu gwreiddiol: Diwedd 12fed ganrif
  • Dodrefnwyd: 1530
  • Datgymalwyd a symudwyd i Sain Ffagan: 1984-5
  • Dyddiad agor i'r cyhoedd: 2007
  • Visiting information