Siop Gwalia

21

Pa fath o adeilad yw hwn?

Roedd Siop Gwalia yn nodweddiadol o siopau bach y cymoedd, ac wedi’i lleoli yng Nghwm Ogwr, ger Pen-y-bont ar Ogwr.

Roedd siopa yn y 19eg ganrif yn brofiad gwahanol iawn i siopa heddiw. Doedd dim archfarchnadoedd, a pheth newydd iawn yw siopa ar-lein – er ei fod wedi dod yn arbennig o boblogaidd, yn enwedig dros y cyfnod clo!

Beth yw ystyr ‘Gwalia’?

Hen air am Gymru yw Gwalia – roedd beirdd yn hoff o’i ddefnyddio. Roedd siopau eraill o’r enw Gwalia, gan gynnwys un ar Stryd Fawr Llantrisant, Rhondda Cynon Taf. Mae hefyd yn enw ar gwmni llety a gwyliau.

Roedd rhodlong o’r enw Gwalia yn hwylio o Benarth ar ddechrau’r 1900au.

Gwalia yn Pier y Barri - Casgliad y Werin Cymru

Pwy oedd yn gweithio yn Siop Gwalia?

William a Mary Llewellyn oedd y siopwyr. Nhw oedd yn rhedeg unig siop y cwm, ac ym 1880 symudodd y ddau i Siop Gwalia. Roedd yn fusnes llwyddiannus, ac yn y pendraw roedd yn cynnwys becws ac adrannau nwyddau haearn, groser, dillad dynion, bwyd anifeiliaid a fferyllfa. Roedd modd i bobl brynu eu holl nwyddau mewn un lle!

Cafodd silffoedd a chownteri mahogani o safon eu gosod gan gwmni Parnalls o Fryste, a chafodd y siop ei galw yn ‘Harrods y Cymoedd’.

Daeth William yn wleidydd Rhyddfrydol lleol ac yn landlord. William a Mary oedd yn berchen ar gar gyntaf yr ardal, a rhoddodd William yr enw Genevieve arno.

Symudodd y ddau o’u cartref uwchben y siop i dŷ mawr ym Mro Morgannwg. Roeddent yn cyflogi sawl gweithiwr, oedd yn byw yn yr atig uwchben y siop. Eu cyflog oedd 8 swllt (40c) yr wythnos.

Beth oedd Siop Gwalia yn ei werthu?

Roedd siop Gwalia yn agos i’r rheilffordd, ac roedd nwyddau o bedwar ban byd i’w cael yno. Deuai te o Tsieina ac India, siwgr o’r Caribî ac Affrica, a ffa coffi o Frasil. Byddai ffermydd lleol yn cyflenwi bacwn, caws, wyau a menyn.

Byddai gweithwyr y siop yn estyn nwyddau oddi ar y silffoedd i’r cwsmeriaid. Byddent yn pwyso’r te, ac yn malu’r ffa coffi yn ffres.

Mae’r bagiau gâi eu defnyddio i’w gweld ar y silff isaf.

Mae’n debyg bod cwsmeriaid yn defnyddio’r bagiau hyn drosodd a throsodd - nid syniad diweddar yw ailgylchu!

Roedd y siop yn gwerthu bisgedi o bob math, a châi’r rhain hefyd eu rhoi mewn bagiau ar gyfer y cwsmeriaid – maen nhw’n dal yr un mor boblogaidd heddiw, ond yn cael eu gwerthu mewn pacedi plastig!

Roedd bisgedi wedi torri ar gael am bris llai. Allwch chi eu gweld nhw ar ochr dde y llun isod?

Sut oedden nhw’n cadw bwyd yn oer?

Cyn dyddiau’r oergell a’r rhewgell, byddai bwydydd fel wyau a chaws yn cael eu cadw ar gownter marmor.

Roedd rhaid gwarchod bwyd fel rhain rhag pryfed, felly roedd papur gludiog yn hongian o’r to, fel yn y llun hwn.

Wedi i’r cwsmeriaid brynu eu nwyddau, byddai aelod o staff Siop Gwalia yn eu cario adref ar feic gyda basged.

Roedd Mr a Mrs Llewellyn bob amser yn gwrtais iawn gyda’u cwsmeriaid, ac yn disgwyl yr un peth gan eu staff!

Beth ddigwyddodd i Siop Gwalia?

Erbyn i Thomas, mab William a Mary, gymryd y busnes yn y 1920au, roedd oes aur y siop ar ben.

Roedd biliau heb eu talu yn sgil Streic Gyffredinol 1926, ac aeth llawer o gwsmeriaid i ddyled yn ystod Dirwasgiad y 1930au.

Caeodd ei drysau am y tro olaf ym 1973, wedi colli’r frwydr yn erbyn archfarchnadoedd Pen-y-bont ar Ogwr. Cafodd ei symud i’r Amgueddfa ym 1988.

Oeddech chi’n gwybod?

Ychydig iawn o wres oedd yn y rhan fwyaf o gartrefi’r 19ain ganrif. Cyn dyddiau gwres canolog, roedd Siop Gwalia yn gwerthu poteli dŵr poeth cerameg.

Mae Dr. David Owen, y cyn Aelod Seneddol SDP, yn un o ddisgynyddion teulu Llewellyn.

Mae Adran Addysg Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru yn trefnu gweithdai ar gyfer plant ysgol gynradd yn Siop Gwalia, er mwyn iddynt gael dysgu am arferion siopa pobl cyn dyddiau’r archfarchnadoedd!

Siop Gwalia - Amgueddfa Cymru

 
Gwalia Map Plot

Ffeithiau Adeilad:

  • Lleoliad gwreiddiol: Commercial Street, Ogmore Vale, Morgannwg
  • Dyddiad adeiladu gwreiddiol: 1880
  • Dodrefnwyd: 1920au
  • Symudwyd i Sain Ffagan: 1988
  • Visiting information
 

Hanes llafar o'r archif

Parch. Ganon Dillwyn Llewellyn Jones yn disgrifio sut yr aeth ei dad-cu a'i fam-gu, William a Mary Llewellyn, i Gwm Ogwr ddiwedd y 19eg ganrif i ddechrau busnes groser.

Mr Arthur Tuck o Gwm Ogwr yn disgrifio lleoliad delfrydol Siop y Gwalia gyferbyn â'r orsaf drenau.