Ffermdy Hendre’r-ywydd Uchaf

12

Tŷ neuadd â ffrâm nenfforch yw hwn. Fe'i codwyd ym 1508, tua diwedd yr Oesoedd Canol, ac mae'n nodweddiadol o ffermdai safonol Cymru yn y cyfnod hwnnw. Ceir pum rhan i'r adeilad. Gwartheg a cheffylau oedd yn byw yn y ddwy isaf, roedd gweithdy yn y rhan ganol a neuadd agored ac ystafell wely yn y ddwy uchaf. Ffrâm goed sydd i'r waliau allanol ac mae'r paneli wedi'u llenwi â phlethwaith o gyll a dwb clai.

Mae'r paneli dwb a'r gwaith coed wedi'u gwyngalchu yn ôl arfer yr Oesoedd Canol. Mae'r lle tân agored yng nghanol y neuadd a'r mwg yn dianc trwy'r to a'r ffenestri di-wydr. Symudwyd yr adeilad i'r Amgueddfa ym 1954.

Hendrerwydd Map Plot

Ffeithiau Adeilad:

  • Lleoliad gwreiddiol: Llangynhafal, Clwyd (Sir Ddinbych)
  • Dyddiad adeiladu gwreiddiol: 1508
  • Symudwyd i Sain Ffagan: 1956
  • Agor i'r cyhoedd: 1962
  • Statws rhestredig: Gradd 2
  • Gwybodaeth ymweld