Melin Eithin

30

Codwyd y felin fechan, gerrig hon tua chanol y 1840au i baratoi eithin i'w fwydo i geffylau. O'r 18fed ganrif hyd at ddiwedd yr Ail Ryfel Byd, roedd y rhan fwyaf o ffermwyr Cymru'n defnyddio ceffylau i weithio ar y fferm.

Roedd gofyn bwydo'r ceffylau'n dda ac roedd eithin yn rhan bwysig o'u deiet. Roedd eithin yn cael ei dyfu'n arbennig ar raddfa fawr ond roedd rhaid ei fathru neu ei falu ar gyfer ei fwyta.

Roedd gan y peiriant malu eithin bigau metal trwm yn sownd wrth yr echel. Roedd ar y llawr isaf ac yn cael ei yrru gan yr olwyn ddŵr. Fodd bynnag, erbyn tua 1850, roedd y rhan fwyaf o'r melinau hyn wedi'u disodli gan beiriannau ysgafnach a rhatach oedd yn cael eu gweithio â llaw neu ag olew.

 

Ffeithiau Adeilad:

  • Lleoliad gwreiddiol: Deheufryn, Dolwen, Clwyd (Sir Ddinbych)
  • Dyddiad adeiladu gwreiddiol: tua 1845
  • Datgymalwyd a symudwyd i Sain Ffagan: 1979
  • Dyddiad agor i'r cyhoedd: 1983
  • Gwybodaeth ymweld